Monday, August 7, 2017

nofel dditectif japaneaidd

Dw i newydd orffen nofel dditectif Japaneaidd gan Kyotaro Nishimura. Yr Arolygydd Heddlu Totsukawa ydy'r prif gymeriad, ac mae o'n datrys troseddau cymhleth fel Sherlock Holmes. Mae'r gyfres honno'n hynod o boblogaidd ers degawdau. Mae gan y gŵr sawl copi ar ei silff; mae o'n eu darllen i ddysgu Japaneg. Dechreuais ddarllen un ohonyn nhw ddyddiau'n ôl, a ches i fy nghyfareddu gan y stori a chymhlethdod y plot. Gwnaethpwyd nifer o ddramâu teledu yn seiliedig ar y nofelau. Ces i gip, ond rhaid dweud mai llawer gwell ydy'r llyfr. 

No comments: