Tuesday, May 31, 2016

lloches ddiogel

Cafodd Jane o Jerwsalem air efo un o filwyr Cenhedloedd Unedig sydd yn cael hoe fach rhag perygl yn Syria. Maen nhw'n mynd ar wibdaith sydyn yn y dref tra bod nhw yno cyn mynd yn ôl i Syria. Mae'n braf bod ganddyn nhw loches ddiogel yn Israel. Na fedran nhw ddisgwyl croeso cynnes felly gan wledydd eraill yn yr ardal.

Sunday, May 29, 2016

adria a'i gŵr

Daeth Adria, ffrind da i fy merch yn Japan, efo ei gŵr newydd briodi i ymweld ein heglwys ni. Mae hi wedi cyfarfod yr hogyn clên hwnnw, mab gweinidog tra oedd hi'n gwasanaethu fel cenhades amaethyddol draw acw. Mae ganddyn nhw weledigaeth arloesol i helpu'r bobl yno drwy greu busnes cydweithredol, a rhannu Newyddion Da efo nhw. Maen nhw'n bwriadu dychwelyd i Honduras ar ôl gweithio yn America am flwyddyn neu ddwy. Pob bendith iddyn nhw.

Saturday, May 28, 2016

clue

Mae gwyliau'r haf ar y plant ers dyddiau. Maen nhw'n cael ymlacio o'r diwedd wedi gweithio'n hynod o galed ystod y tymor. Mae ganddyn nhw amser i chwarae gêm bwrdd hyd yn oed. Mae'r ddau wrthi'n chwarae Clue efo'u chwaer a'i ffrind drwy Skype ar hyn o bryd.

Friday, May 27, 2016

wythnos arall

Dylai fy merch hynaf aros wythnos arall yn New Jersey i greu mwy o furlun yn ôl ewyllys ei chwsmer. Roedd ei gŵr yn gorfod mynd adref ddiwedd yr wythnos diwethaf, ac felly ar ei phen ei hun mae hi. Yn ffodus, mae yna lawer o ddynion sydd yn gweithio o'i chwmpas yn y maes awyr, ac maen nhw'n barod i'w helpu'n cludo pethau trwm, ayyb. Deffrodd hi ar olygfa hyfryd oddi wrth ffenestr y gwesty un bore.

Thursday, May 26, 2016

tywysog gwyrdd

Dw i'n gwirioni arno fo. (I'm delighted with him, not I'm hooked on him, just in case you try to use Google.) Person arall sydd yn anhygoel o ddewr yn y byd peryglus hwn. Mae o'n dweud y gwir yn gyhoeddus heb ofn ers iddo gael ei oleuo er gwaethaf y perygl. Wir, mae popeth mae o'n ei ddweud yn gwneud tunnell o synnwyr. Gobeithio y bydd llawer o bobl yn ei glywed a chael gwybod beth sydd yn digwydd yn Nwyrain Canol a'r byd mewn gwirionedd. Pob bendith i Mosab Hassan Yousef.

Wednesday, May 25, 2016

jane o jerwsalem

Mae hi'n caru Israel. Mae hi'n siarad drosti hi. Jane ydy ei henw hi, dynes o Ddenmarc. Bob dydd mae hi'n postio ar Facebook (Israel, One Nation) beth mae hi'n ei weld yn Jerwsalem lle mae hi'n byw, mewn erthygl neu fideo er mwyn i'r byd wybod beth sydd yn digwydd yn Israel mewn gwirionedd. Mae hi'n cael ei bygwth am beth mae hi'n ei wneud, ond mae hi'n ddewr; mae hi'n dal ati oherwydd bod hi'n caru Israel a'r bobl cymaint.

Tuesday, May 24, 2016

tipyn o hebraeg

Dw i'n dysgu Hebraeg ers wythnosau ar ben fy hun wedi hoe hir. Ar ddarllen dw i'n canolbwyntio ar hyn o bryd. Ar wahân i'r ffaith bod yr Hen Destament wedi cael ei ysgrifennu'n Hebraeg yn wreiddiol, mae'r iaith honno'n hynod o ryfeddol. Mae yna gynifer o'r geiriau sydd yn debyg i Japaneg. A dweud y gwir, mae rhai'n dweud bod gan bobl Japan wreiddiau Hebreig -  pwnc arall efallai. Am y tro, dw i'n fodlon medru ysgrifennu'r rhan gyntaf o Shema Israel.

ON: Roedd y gacen yn flasus!

Monday, May 23, 2016

cacen benblwydd priodas

Wrth baratoi cacen benblwydd priodas, fe wnes i gamgymeriad ofnadwy. Dechreuais gymysgu siwgr ac wyau, ac ychwanegu sydd lemon. Yna gwelais y menyn ar y cownter! Dylwn i fod wedi cymysgu siwgr a menyn gyntaf wrth gwrs. Roedd yn rhy hwyr. Roedd gen i gymysgedd wedi'i wahanu'n llwyr. Mae'r gacen newydd orffen ac yn oeri ar y bwrdd. Gobeithio y bydd hi'n blasu'n iawn. Rysáit newydd gan hogyn o Ffrainc ydy hon. O leiaf roeddwn i'n llwyddo i ddeall faint o fenyn, siwgr a blawd byddai angen.

Sunday, May 22, 2016

cynhaeaf

Mae gan yr ysgol feithrin yn Tokyo mae fy merch yn dysgu Saesneg ynddi nifer o weithgareddau hwyl i'r plant. Garddio ydy un ohonyn nhw. Mae'r plant yn plannu llysiau, gofalu amdanyn nhw, a'u cynaeafu. Cawson nhw gynhaeaf llwyddiannus o bigoglys yn ddiweddar. Modd hyfryd iddyn nhw ddysgu am yr amaethyddiaeth a chael hwyl ar y pridd ydy hynny.

Saturday, May 21, 2016

paned

Mae'r murlun yn symud ymlaen yn braf. Gorffennwyd y ddynes sydd yn ganolbwynt y dyluniad. Mae ei hwyneb mewn dull dipyn yn wahanol nag arfer gan mai ewyllys y cwsmer ydy hyn. Mae fy merch yn medru cael paned yn gyfleus drwy Starbucks ar yr un llawr.

Friday, May 20, 2016

dechrau paentio

Dechreuodd fy merch hynaf ar ei murlun diweddaraf ym Maes Awyr Newark. Mae'r lle yn gorlifo efo gweithiwyr eraill sydd yn adnewyddu'r tai bwyta yno. Rhaid i bawb fynd drwy'r giât diogelwch bob bore. O leiaf mae hi'n medru paentio'n ddiogel. Bydd hi'n gweithio ar y murlun am wythnos wrth aros mewn gwesty cyfagos yn y nos.

Thursday, May 19, 2016

pecyn efo seren dafydd

Daeth y postmon â phecyn bach at ein drws ni. Dwedodd y gŵr a dderbyniodd y pecyn, "something for you from ..... Beer Sheva" wrth ynganu "Beer" fel cwrw. Gwelais y cyfeiriad dychwelyd yn syn - Beer Sheva... yn Israel? Yna, gwelais y faner efo seren Dafydd; customs form yn Hebraeg; y wlad wreiddiol - Israel! Ces i goffi o Israel! Fy merch hynaf a'i archebodd yn anrheg Sul y Mamau. (Cyrhaeddodd dipyn yn hwyr.) Fe wnes i baned yn ôl y cyfarwyddiadau. Mae ganddo flas egsotig oherwydd y cardamom. Am anrheg arbennig a pherffaith!

Wednesday, May 18, 2016

newydd wedd

Mae gan wefan tatŵ fy merch hynaf olwg newydd. Cafodd hi gyngor gan broffesiynol er mwyn datblygu ei busnes. Mae'n edrych yn fwy deniadol. Un peth diddorol ydy map sydd yn dangos lle mae ei chwsmeriaid yn byw. Maen nhw'n wir ryngwladol.

Monday, May 16, 2016

above and beyond

Fe wnes i wylio ffilm ddogfen (drwy Netflix) efo'r teulu neithiwr, sef Above and Beyond. Ffilm am y peilotiaid Americanaidd a oedd yn hedfan dros Israel yn ystod y rhyfel annibyniaeth yn 1948 ydy hi. Mae rhai ohonyn nhw'n dal i fyw i adrodd yr hanes anhygoel hwnnw. Doedd dim awyrlu yn Israel pan ddechreuodd y gwledydd Arabaidd o'i chwmpas hi ymosod ar y wlad Iddewig newydd-anedig. Aeth cannoedd o beilotiaid a chyn peilotiaid dros y byd i Israel i'w helpu. Y pedwar awyren ail-law, wedi'u hatgyweirio a hedfanwyd gan bedwar Americanwr oedd Awyrlu Israel gyntaf. Curon nhw'r gelynion enfawr fel Dafydd a gurodd Goliath....

Sunday, May 15, 2016

cyfres goginio arall

Mae You Tube yn gwybod beth dw i'n hoffi ei weld (weithiau maen nhw'n hollol anghywir!) Awgrymon nhw'r fideo hwn i mi - cyfres goginio gan Iddewes sydd yn siarad Eidaleg tra bod hi'n dangos coginio Iddewig, a thaflu gair neu dau o Hebraeg. Mae ganddi hi nifer o ryseitiau dw i eisiau eu profi. Mae hyn yn edrych yn dda, ond does dim zucchini crwn yn y siopau yma!

Saturday, May 14, 2016

seinydd rhad ac am ddim


Dw i'n gwneud rhai ohonyn nhw ar y rhestr ers blynyddoedd tra bod y lleill yn syniadau newydd i mi - y pethau ynglŷn â'r dechnoleg fodern wrth gwrs! Dw i'n hoffi gwrando ar Radio Cymru wrth baratoi fy hun yn y bore. Weithiau dydy'r sain ddim yn ddigon uchel, ond dw i ddim eisiau talu am seinydd penodol ar gyfer fy iPhone; mae hyn yn ateb perffaith i mi. Mae'n gweithio! 

Friday, May 13, 2016

rafftio

Mae fy merch ifancaf a'i ffrind newydd adael am y brifysgol yn Missouri wedi treulio dyddiau o wyliau'n hapus. Yr uchel bwynt oedd mynd i lawr Afon Illinois cyfagos mewn rafft. Gan nad ydy'r tymor twristiaid eto, doedd neb arall ar yr afon, ac roedd y teulu a'r ffrind yn medru mwynhau gweithgaredd mwyaf poblogaidd y dref mewn heddwch. Dw i'n falch bod hi wedi cael amser pleserus cyn iddi ddechrau gweithio yng nghegin y brifysgol yn golchi llestri am wyth awr bob dydd o yfory ymlaen.

Thursday, May 12, 2016

yom ha'atzmaut hapus

 Penblwydd hapus yn 68 oed! Pob bendith i'r bobl o Israel a'r Iddewon ar wasgar. 

Wednesday, May 11, 2016

gyoza

Fe goginiais gyoza i swper ddoe. Gan fod yna dair merch a oedd yn barod i fy helpu, aeth y paratoadau'n gyflym. Roedd yn arbennig o flasus y tro hwn, a mwynhaodd y ffrind o Kazakstan ei gyoza cyntaf. Mae hi'n medru defnyddio chopstiks yn ddeheuig gan ei bod hi'n bwyta mewn tŷ bwyta sushi yn ei thref o bryd i'w gilydd!

Tuesday, May 10, 2016

prosiect newydd

Mae gan fy merch hynaf brosiect murlun newydd, ym maes awyr Newwark y tro 'ma, yn nherfynell United Airlines i fod yn fanwl. Cafodd hi ddewis i baentio murlun ar gyfer Little Purse, tŷ bwyta Tsieineaidd yno sydd gan gogydd poblogaidd. Mae cwmni United Airlines yn gwario llawer o bres i adnewyddu eu terfynell, ac mae'r tŷ bwyta'n cymryd mantais ar y cynllun. Bydd fy merch ynghyd a'i gŵr yn hedfan i'r maes awyr, a threulio wythnos yno i baentio'r murlun. Mae hi newydd orffen braslun. Edrycha' i ymlaen at furlun gwych arall.

Monday, May 9, 2016

gwyliau

Mae fy merch ifancaf adref am wythnos wedi gorffen y tymor cyntaf yn y brifysgol yn llwyddiannus. Daeth hi â'i ffrind o Kazakstan i dreulio'r wythnos efo ni. Maen nhw ynghyd â fy merch arall yn mwynhau eu gwyliau'n mynd o gwmpas a chwarae gemau bwrdd ac yn y blaen. O'r diwedd mae ganddyn nhw i gyd amser i ymlacio ar ôl gweithio'n galed dros ben.

Saturday, May 7, 2016

graddio

Y diwrnod graddio yn y brifysgol leol ydy hi heddiw. Graddiodd un o fy merched hefyd. Cafodd hi radd yn yr ieithyddiaeth. Dydy hi ddim yn gwybod beth mae hi eisio ei wneud eto; am y tro, mae hi'n mynd i Ffrainc a dysgu Saesneg i fachgen bach am ddau fis; yna, yn Japan am flwyddyn yn dysgu Saesneg mewn dosbarth bach. Dw i'n edrych ymlaen at glywed ei hanes yn barod.

Friday, May 6, 2016

hidlydd metel

Prynais hidlydd metel i baratoi coffi. Roeddwn i'n defnyddio un arall o blastig efo papur tu mewn (cyn darganfod y dull newydd.) Mae'r hidlydd metel yn gweithio'n debyg ond does dim angen papur. Yn ogystal, mae olew coffi yn mynd drwyddo oherwydd nad oes papur i'w rwystro. Cewch chi goffi brafiach o ganlyniad. Does dim gwaddod ar waelod y cwpan chwaith.

Thursday, May 5, 2016

cerdyn priodas

Fe wnes i gerdyn i ffrind sydd yn priodi'r wythnos nesaf. Americanes glên a dewr ydy hi. Mae hi'n helpu'r ffermwyr yn Honduras a gweithio'n galed efo nhw ers blynyddoedd. Roedd hi'n cyfarfod hogyn lleol neis, mab gweinidog, ac maen nhw'n priodi yn Kansas o le mae hi'n dod. Byddan nhw'n byw yn America am sbel cyn mynd yn ôl i Honduras. Dw i'n dymuno pob bendith arnyn nhw.

Wednesday, May 4, 2016

coffi gwych

Doeddwn i ddim yn gwybod bod yn hollol bosib paratoi paned o goffi gwych heb declyn arbennig - tywalltwch dŵr poeth ar ben coffi mewn pot o unrhyw fath; arhoswch am funudau; tywalltwch yr hylif mewn cwpan drwy hidlydd. Dyna i gyd. Peidiwch ag yfed y gwaddod ar waelod y cwpan; golchwch yr wyneb efo fo ar gyfer croen llyfn. 

Tuesday, May 3, 2016

y moment

Mae yna foment perffaith weithiau. Bydd o'n cael ei golli os na weithredwch chi ar unwaith. Fe welais un - yr olwg hon pan roddais gip tu allan o'r ffenestr y bore 'ma. Dyma gael gafael yn fy iPhone a mynd allan i dynnu llun ohono fo. Roeddwn i'n gwybod byddai fo'n diflannu'n fuan - moment hudol. Mae popeth wedi newid dan heulwen bellach. Dw i'n falch fy mod i wedi gweithredu.

Monday, May 2, 2016

i swper

Roedd yn saig hynod o flasus - cyw, reis, llysiau a wnaed yn yr un badell. Roedd blas lemon yn arbennig o dda. Roedd y teulu wrth ei fodd. A dweud y gwir, does dim sôn am y llysiau (nionyn, garlleg, pupur coch, pys) yn y rysáit, ond roeddwn i'n siŵr bydden nhw'n dda efo'r cyw. Oedden! Y peth gorau oedd bod popeth wedi cael ei goginio yn yr un badell.

Sunday, May 1, 2016

bedydd

Cafodd tair eu bedyddio yn ein heglwys ni heddiw - un ferch ifanc a dwy ddynes ganol oed. Wedi clywed tystiolaethau sydyn diffuant ganddyn nhw, aeth pawb tu allan i fod yn bresennol yn y ddefod bwysig i'r Cristnogion, a rhannu eu llawenydd. Roedd yn syml a hardd dan heulwen lachar. Cafodd y cafn buwch hyd yn oed wisg ffansi ar gyfer yr achlysur arbennig.