Tuesday, June 30, 2015

pack 1

Dw i newydd brynu Pack 1 Français Authentique! Roeddwn i'n dysgu Ffrangeg ers blwyddyn ac wedi defnyddio'r we a CDau amrywiol. Roedd pob un ohonyn nhw'n gymorth i mi, ond rhaid dweud mai gwefan Johan sydd yn fwyaf effeithiol. Mae o'n dweud mai ar gyfer rhai sydd yn deall Ffrangeg heb fedru ei siarad eto ydy ei gyrsiau. Dw i'n credu'n siŵr bod y cwrs yn berffaith i mi. Ces i gip ar y cynnwys; mae yna lawer o awdio a thrawsgrifiadau sydd yn swnio'n ddiddorol. Edrycha' i ymlaen at y dyddiau nesaf!

Monday, June 29, 2015

colled i un, elw i'r llall

Clywais y newyddion trist y bore 'ma byddai Petr Cech yn gadael Chelsea a symud i Arsenal, ond wedi darllen ei lythyr at ei gefnogwyr, dw i a fy mab ifanc sydd yn hoff iawn o Chelsea a'r gôl-geidwad ardderchog hwnnw, yn deall pam ei fod o wedi gwneud y penderfyniad. Gobeithio bydd o'n cael cyfle i chwarae cymaint ag y myn a defnyddio ei sgil medrus yn y tîm newydd. Fe fydd yn anodd i fy mab weld y gêm nesaf rhwng y ddau dîm. Bydda i'n cefnogi Petr Cech yn bersonol a gobeithio y bydd o'n blocio pob ergyd Chelsea! Yna byddan nhw'n gweld eu colled a chamgymeriad.

Sunday, June 28, 2015

darganfyddiad

Mae technoleg newydd yn dod ata i'n araf iawn. Dechreuais ddefnyddio hen iPhone fy ngŵr fisoedd yn ôl wedi iddo brynu un newydd. Dw i'n ei ddefnyddio ond fel ffôn syml a chamera'r rhan fwyaf o'r amser heb ddeall pob defnydd y teclyn bach hwn. Felly roeddwn i wrth fy modd yn dod ar draws ar ddamwain y modd i osod ar y sgrin fach unrhyw lun oddi wrth yr albwm. Dyma ddewis un ar unwaith - un o gannoedd a dynnais yn Fenis!

Saturday, June 27, 2015

clwt o laswellt

Mae fy mab ifancaf sydd yn torri'r lawnt erbyn hyn. Wrth iddo ddechrau'r prynhawn 'ma, gofynnais iddo adael clwt o feillion ar gongl yr iard. Ar gyfer y cwningod ydy o. Maen nhw'n dod a mynd drwy'r amser; efallai bod nhw'n gorfod symud o gwmpas o iard i iard wrth i'r bobl dorri'r lawnt. A dweud y gwir, dwedodd fy mab fod cwningen wedi dianc o wely iris pan ddechreuodd dorri'r glaswellt o'i amgylch. Gobeithio y byddan nhw'n dod i'r clwt a adawyd.

Friday, June 26, 2015

hen oen ac un newydd

Prynodd fy merch ifancaf oen bach meddal efo rhuban gwyrdd yn Iwerddon. Mae ganddi un arall a gafodd yn anrheg flynyddoedd yn ôl. Enwodd o'n Lamby-Lamb a dydy hi erioed eisiau ei daflu fo ac fe wnaeth gân a stori amdano fo sydd yn aros yn y teulu hyd yma. Rŵan mae gan Lamby-Lamb heriwr! Dw i ddim yn meddwl fod o'n rhy hapus.

Thursday, June 25, 2015

diod, pysgodyn, gwenwyn

boisson, poisson, poison - maen nhw'n ofnadwy o debyg i'w gilydd yn Ffrangeg. Byddai'n hawdd i ddysgwyr eu cymysgu nhw a chreu comedi o flaen y Ffrancwyr. Dw i'n mwynhau dysgu Ffrangeg beth bynnag. Dw i ddim yn darllen llyfrau gramadeg rŵan ond gwrando ar CD, awdio ar You Tube ayyb yn ceisio trochi fy ymennydd yn Ffrangeg dealladwy, a dw i'n ceisio dweud rhywbeth efo CD Paul Noble bellach. Y cam nesaf bydd defnyddio cwrs cyntaf Johan. Edrycha' i ymlaen.

Wednesday, June 24, 2015

penblwydd fy merch yn japan

Penblwydd fy ail ferch ydy hi heddiw. Gan ei bod hi mor brysur yn ei gwaith, doedd ganddi amser i wneud dim arbennig ond prynu sushi a darn o gacen mewn siop a'u bwyta yn ei fflat ar ôl mynd adref am 9 o'r gloch. (Mae'r sushi'n edrych yn flasus iawn yn annhebyg i rai sydd ar gael yma.) Cawson ni sgwrs sydyn drwy Skype y bore 'ma. Dw i'n hapus clywed bod hi'n fodlon efo'i swydd a'r cydweithwyr heb sôn am ei fflat dwt, ac yn anad dim y ffaith ei bod hi'n cael byw a gweithio yn Japan. Bydd ei thad yn ymweld â hi mewn wythnosau a gobeithio bydda innau'n cael ei gweld hi cyn hir yn Japan.

Tuesday, June 23, 2015

diwrnod cyntaf

Heddiw ydy'r diwrnod cyntaf o waith i fy mab ifancaf 15 oed; dechreuodd o weithio'n rhan amser yn y siop hufen iâ lle mae fy mhlant i gyd ac eithrio fy merch hynaf yn gweithio, un ar ôl y llall dros flynyddoedd. Rhaid dweud mai'r siop a helpodd y plant i fynd i'r brifysgol, ac i'r Iwerddon yn achos fy merch ifancaf. Mae hi'n cyflogi nifer o ddisgyblion yr ysgol uwchradd leol ac weithiau mae'n edrych fel pe bai hi'n cael ei rhedeg ganddyn nhw!

Monday, June 22, 2015

sul y tadau hapus

Cafodd fy ngŵr negeseuon ar gyfer Sul y Tadau gan ein plant ni yn Japan, Iwerddon, Floria a Texas. Diolchodd un o'r merched i'w thad am ei dysgu (drwy ei esiampl) sut i fwyta'n economaidd yn ystod siwrneiau! Creodd y mab ifancaf, yr unig blentyn sydd cartref, neges unigryw. (Efallai fod o wedi cael y syniad gan fy ngwaith an-fuddigol.)

Sunday, June 21, 2015

llun mewn ffrâm

Cawson ni sgwrs efo fy nwy ferch yn Iwerddon drwy Skype. Wrth i ni ddefnyddio iPad fy ngŵr, roedd y merched ar y sgrin yn edrych fel llun bach mewn ffrâm. Maen nhw'n aros efo ffrindiau teuluol a chael amser anhygoel o braf. Dwedodd fy merch ifancaf y byddai hi'n byw yno pe bai'n bosib. Yn anffodus bydd hi'n gorfod dod adref ddydd Mawrth. Bydd ei chwaer ar ei hôl wedi treulio rhyw wythnos yn Lloegr.

Saturday, June 20, 2015

canlyniad y gystadleuaeth

Enillais i ddim. Roeddwn i'n meddwl bod fy un i braidd yn dda, ac eto dw i'n gweld yr enillwyr wedi gwneud llawer gwell. Dw i'n sylwi rŵan mai cynnwys pobl yn y llun yn help mawr. Doeddwn i ddim eisiau ymddangos yn y llun a dweud y gwir! O wel, mae'r suspense wedi drosodd. Dw i'n hoffi'r llun a gafodd yr ail wobr. Roedd gan y dyn syniad diddorol. Argraffodd y geiriau ar y crysau-T, heb Photoshop, "Dw i'n hoffi Français Authentique!" "....Me too!" Dyma fy un i. Ofynnais i ddim cymorth fy mab! :)

Friday, June 19, 2015

o iwerddon

Mae fy nwy ferch yn dal i gael amser hyfryd yn Iwerddon. Un diwrnod roedden nhw wrth eu boddau'n marchogaeth am bum awr. Heddiw aethon nhw i Belfast yn ymweld ag amgueddfa Titanic. Cawson nhw wahoddiad yr un pryd gan Roger ai deulu yno i aros efo nhw dros y penwythnos. Astudiodd fy ngŵr a Roger ym Mhrifysgol Indiana yr un cyfnod; mae gwraig Roger yn dod o Abertawe. Roedd fy nhrydedd ferch yn fabi fach pan oedden ni yno. Mae'n anhygoel byddan nhw'n gweld ei gilydd ar ôl cynifer o flynyddoedd.

Thursday, June 18, 2015

fideos patricia

Des i ar draws cyfres arall o fideos Ffrangeg ar You Tube. Patricia ydy'r tiwtor sydd yn siarad  yn Ffrangeg yr unig (yn araf) am bynciau amrywiol o'r gramadeg, ynganiad, ymadroddion, diwylliant, cynghorion defnyddiol a mwy. Maen nhw'n dda iawn. Dw i wedi gweld sawl fideo a bwriadu gweld y gweddill i gyd. Roeddwn i'n sylwi bod hi'n siarad efo'i dannedd ar gau'n aml. Gwelais ddynes Ffrengig arall yn gwneud yr un peth. Efallai mai tafodiaith neu debyg ydy hynny. Un peth arall roeddwn i'n ei sylwi - llyfr mawr am erddi Japaneaidd ar y silff tu ôl iddi. :)

Wednesday, June 17, 2015

cerdded

Fel arfer bydda i'n gorfod cerdded yn yr un gymdogaeth; mae'n dipyn o her mynd allan ohoni hi oherwydd y traffig ceir a dw i ddim yn hoffi gyrru i le arall er mwyn cerdded. Roedd hi'n braf y bore 'ma felly pan ges i gyfle i gerdded o gwmpas tir yr ysgol uwchradd yn ddistaw bach tra oeddwn i'n aros am fy mab a oedd yn rhedeg efo'r tîm cross country. Roedd hi'n gymylog, ddim yn boeth a welais neb ar wahân i'r tîm. Dw i eisiau cerdded ar ffyrdd gwahanol y  tro nesaf tra bydda i'n aros.

Tuesday, June 16, 2015

rhy anodd

"Dewisais ddeg llun ar gyfer y gystadleuaeth. Rŵan dylwn i ddewis pedwar enillydd. Mae'n anodd. Gadewch i mi feddwl nes y penwythnos yma," meddai Johan o Français Authentique. Roeddwn i'n disgwyl gweld y canlyniad yn ddiamynedd y penwythnos diwethaf, ond rhaid aros ychydig mwy. Yn y cyfamser dw i'n gwrando ar ei awdio a gwneud ymarferion efo CD Paul Noble. (Dw i ar y 9fed ar hyn o bryd.)

Monday, June 15, 2015

torri ewinedd

Wrth i'w chwiorydd fwynhau eu gwyliau yn Iwerddon, ar fy mab ifancaf mae'r ddyletswydd i ofalu am y ddau fochyn cwta. Mae o'n gwneud y gwaith yn ffyddlon ond mae un peth rhy anodd iddo ei wneud sef torri eu hewinedd. Roedd o wrthi'n hir ddoe efo fy nghymorth. Gosodon ni un ar raced tenis hyd yn oed yn ôl syniad ar You Tube, ond na, roedd rhaid i ni roi'r gorau iddi. Penderfynon ni aros nes i fy merch ifancaf ddod adref yr wythnos nesaf. 

Sunday, June 14, 2015

sw

Mae gynnon ni gynifer o wiwerod, adar, cwningod. Maen nhw'n hoffi dod i'n hiard ni'n aml oherwydd, dw i'n meddwl, nad oes gynnon ni gi. Maen nhw'n ddiogel ynddi oni bai bod ambell i gath neu'r cŵn dros nesaf ddringo'r ffens a dod i mewn. Aelod diweddaraf y sw ydy crwban bach. Mae o'n dod a mynd fel y myn. Enwais i fo Totoro.

Saturday, June 13, 2015

y pumed cyfweliad

Mae Alberto o Italiano Automatico newydd wneud fideo arall efo ei ffrindiau'n cyfweld pobl yn Brescia lle mae o'n byw. Mae'n ymddangos yn hynod o anodd cyfweld pobl ar strydoedd gan eu bod nhw ar brys ac yn amheus o bawb sydd gan gamera fideo a gofyn cwestiynau. Dewisodd o le gwych y tro 'ma sef Castello (y castell yn y dref.) Roedd y bobl yn ymddangos yn fwy parod i siarad, ac fel canlyniad, mae'r cyfweliad yn fwy diddorol a doniol. Mae'r olygfa'n fy atgoffa i o'r diwrnod treuliais yno efo ffrind i mi yn yr haf diweddaf.

Friday, June 12, 2015

peth gwahanol

Bydda i'n mynd am dro yn y bore cynnar neu ar ôl machlud yr haul fel arfer yn ystod y tymor poeth oherwydd nad ydw i'n hoffi gwres. Heddiw fe wnes i rywbeth gwahanol; es i am dro am ddau o'r gloch yn y prynhawn oherwydd; 1. bydd ychydig o heulwen yn gwneud lles i mi (roeddwn i'n gwisgo het, sbectol haul a chrys efo llawes hir er mwyn amddiffyn fy hun rhag pelydrau UV); 2. fyddai neb yn torri lawnt heb sôn am fynd am dro ar yr adeg honno; 3. mae'n iachus chwysu. (Mae'n well gen i aros mewn lle oeraidd a byth yn chwysu.) Fe wnes i gyflawni popeth a dw i'n teimlo'n braf wedi cael cawod sydyn. Rŵan dw i'n sgrifennu fy mlog wrth lyfu popcicle a rhoi cip ar y gêm pêl-droed rhwng Cymru a Gwlad Belg o bryd i'w gilydd.

Thursday, June 11, 2015

cystadleuaeth

Mae Johan o Français Authentique yn cynnal cystadleuaeth wrth ddathlu'r ffaith bod y nifer o bobl sydd yn tanysgrifio at ei dudalen Face Book wedi cyrraedd 200,000. Y peth mae o'n gofyn i bobl wneud ydy, sgrifennu J’aime Français Authentique (dw i'n hoffi Français Authentique) mewn modd unigryw a diddorol; anfon llun o'r arwydd ato fo. Bydd o (efo cymorth ei wraig) yn dewis pedwar gorau a rhoi ei gyrsiau Ffrangeg yn wobrau iddyn nhw. Dyma gael ysbrydoliaeth ddyddiau'n ôl a gweithio'n galed. Y dyddiau cau ydy'r penwythnos 'ma. Gobeithio y bydda i'n ennill y bedwaredd wobr sef Pack 1. Postia' i fy llun ar ôl y cyhoeddiad beth bynnag fydd y canlyniad.

Wednesday, June 10, 2015

y foment

Tra fy merched yn gyrru lluniau hyfryd o wledydd prydferth amrywiol, dw i'n dal mewn ardal ddi-lol, llawn o bryfed cas. Ces i fy synnu felly pan es i am dro yn gynnar yn y bore, a gweld golygfa hynod o hardd. Er bydd popeth yn setlo yn ôl at ddi-lol wrth i'r haul godi, mae harddwch yn cael ei ddarganfod os dach chi'n edrych o gwmpas yn ofalus. 

Tuesday, June 9, 2015

cwc, mis mehefin

Cynhaliwyd CWC (Coffee with a Cop) yn siop coffi Starbucks yn Norman, Oklahoma bore ddoe. Y tro 'ma daeth cynifer o officers mae fy merch hynaf yn eu nabod yn dda, ac felly roedd hi wrth ei bodd yn tynnu lluniau a saethu fideo. Dw i'n llawn edmygedd eto o Heddlu Norman sydd gan syniadau creadigol i hyrwyddo perthnasau cadarnhaol rhwng yr Heddlu a'r trigolion. Cyhoeddodd y gŵr y bydden ni'n ymweld â'n merch yr ail wythnos fis Awst ac ymuno â CWC.

Monday, June 8, 2015

playing love

Dw i ddim yn medru chwarae piano ond weithiau mae eisiau arna i chwarae alaw dw i'n ei hoffi. Playing Love (the Legend of 1900) ydy'r alaw dw i'n ceisio ei chwarae dyddiau hyn. Dim ond efo'r llaw dde dw i'n chwarae'n bennaf yn ychwanegu nodyn neu ddau gan law chwith i swnio'n grand. Sgrifennais nodiadau sydyn wrth weld fideo ar You Tube sydd yn dangos y bysellfwrdd. Dw i'n dechrau ar ôl y rhagarweiniad amhosib. Mae'n ofnadwy o anodd! Dydy fy mysedd ddim yn ymateb i fy ngorchymyn! Dw i'n ymarfer o dipyn i beth bob dydd fel ymarfer ymennydd. Gobeithio bydda i'n medru ei chwarae braidd yn dda un diwrnod.

Sunday, June 7, 2015

dim "ticks"

Mae fy nwy ferch yn cael amser gwych yn Iwerddon. Gyrron nhw lun ohonyn nhw'n gorwedd ar laswellt toreithiog yn yr heulwen; maen nhw'n gwenu'n braf. Tu hwnt i amgyffred ydy hyn yn Oklahoma neu'r rhan fwyaf o'r taleithiau yn America. Dylen ni bob amser fod yn wyliadwrus o ticks a feiddia' i ddim cerdded ar laswellt heb chwistrellu pryfed heb sôn am orwedd arno fo. Aaaaa, maen nhw'n cael eu difetha.

Saturday, June 6, 2015

blog arall

Fel mae Alberto a Johan yn dweud bob amser (a dw i'n cytuno'n llwyr) mai modd gwych i ddysgu iaith arall ydy gwrando/darllen pethau dych chi'n ymddiddori ynddyn nhw yn yr iaith honno. Ym mhost diweddaraf BluOscar, sgrifennodd o am daith gerdded efo un o'i ddarllenwyr, sef AnnaLivia sydd yn byw yn Montreal a siarad Ffrangeg fel ei mamiaith. Mae ganddi flog hyfryd ei hun o'r enw Mes Carnets Vénitiens. Dw i newydd ei ychwanegu at fy rhestr blogiau fel bydda i'n cael darllen am Fenis yn Ffrangeg. 

Friday, June 5, 2015

blasu cymru yn tokyo

Cynhaliwyd yn Tokyo event ar gyfer hyrwyddo caws a chwrw Cymreig. Arddangosodd wyth o gynhyrchwyr o Gymru gan gynnwys Caws Cenarth a Tiny Rebel eu cynhyrchion arbennig. Ces i fy synnu'n gweld erthygl am Gymru ar newyddion Japaneg y bore 'ma. Gobeithio y byddan nhw'n llwyddo i werthu eu cynhyrchion yn Japan.

Y llun gan Yomiuri Online

Thursday, June 4, 2015

yn nulyn

Wedi setlo i lawr yn eu llety cyfforddus, dechreuodd fy nwy ferch fynd o gwmpas Dulyn. Ymunon nhw â thaith gerdded a dywyswyd gan arweinydd gwybodus. Aethon nhw efo rhai o'r grŵp sydd yn dod o Loegr, yr Almaen, Denmarc, Canada i dafarn am ginio ar ôl y daith. Roedd fy merch ifancaf wrth ei bodd yn bwyta stiw cig eidion Gwyddelig. Dwedodd fy merch arall fod ei chwaer yn cael amser bendigedig. Gofynnais, "beth amdanat ti?" "Mae'n well gen i Gymru," meddai! 

Wednesday, June 3, 2015

paul noble

O'r diwedd cyrhaeddodd awdio Paul Noble (dwy wythnos yn hwyr.) Mae ganddo ddull hollol anarferol. Dim llyfrau ar wahân i un tenau ar gyfer gwybodaeth sydyn. Dim gramadeg, cyfarchion, enwau dyddiau'r wythnos, ayyb. Dechreuodd y wers gyntaf gan ddysgu sut i ddweud "dw i wedi..." Roedd mor hwyl fel roeddwn i eisiau dal i  wneud y gwers efo fo a'r Ffrances. Dw i'n hoffi ei acen Seisnig hefyd. Dw i'n fodlon fy mod i wedi canolbwyntio ar wrando ar Ffrangeg heb wthio fy hun i siarad hyd yma. Wedi gwrando ar awdio Ffrangeg, yn enwedig rhai gan Johan yn ddwys ers misoedd, dw i'n deall llawer mwy nag o'r blaen ac yn barod i ddechrau ymarfer siarad. 

Tuesday, June 2, 2015

yn ddiogel yn nulyn

Deffrais am bump y bore 'ma wrth feddwl am fy nwy ferch yn cychwyn ar eu siwrnai, yn enwedig fy merch ifancaf 18 oed sydd yn teithio tramor ar ei phen ei hun am y tro cyntaf. Roeddwn i'n falch o weld neges sydd yn dweud bod nhw wedi cyfarfod ei gilydd ym maes awyr Dulyn. Maen nhw yn eu llety bellach yn ddiogel. Gadawodd fy merch ifancaf ei siaced adref ar ddamwain. Roedd yn rhy hwyr erbyn iddi sylweddoli, ac felly rhaid cael benthyg siaced Adias ei thad a aeth â hi i faes awyr Tulsa!

Monday, June 1, 2015

siwrnai arall

Mae fy merch ifancaf newydd adael am Iwerddon. Roedd hi a'i chwaer yn sôn am fynd yno efo'i gilydd ers blynyddoedd, a dyma nhw. (Roedden nhw'n gweithio'n rhan amser yn galed i gynilo pres.) Gadawodd fy merch arall Abertawe am y tro olaf yr un pryd wedi ffarwelio â'i ffrindiau annwyl yno i gymryd trên i Gaergybi; wedyn, llong i Ddulyn. Maen nhw'n bwriadu cyfarfod ei gilydd ym maes awyr Dulyn fore fory cyn mynd i'w llety yn y dref. Byddan nhw'n aros yn Iwerddon am dair wythnos.