Tuesday, December 31, 2013

caserol newydd

Dylai rysáit fod yn syml a hawdd, neu bydda i byth ei ddefnyddio er pa mor flasus ydy'r saig. Wrth gwrs fy mod i'n ceisio coginio'n iach cymaint â phosib. Des i ar draws y rysáit hwn sydd yn taro deuddeg. Gan nad ydy o'n gofyn am gaws, mae hwn dipyn yn wahanol i fy nghaserolau arferol. Coginiais hwn ddoe; roedd yn flasus iawn a hawdd wrth gwrs. Y tro nesaf, byddwn i'n defnyddio ond un tun o gawl tomato ac un tun o saws tomato yn hytrach na dau dun o gawl tomato er mwyn lleihau'r melyster.

Monday, December 30, 2013

bwyta fel chelsea fc

Mae fy mab ifancaf yn hoff iawn o glwb pêl-droed Chelsea. Cafodd lawer o bethau sydd yn gysylltiedig i'r tîm hwnnw yn anrhegion Nadolig - posteri, DVD, bandiau arddwrn, masg José Mourinho a llyfr o'r enw Play Like Chelsea FC. Mae o wrthi'n darllen y llyfr hwn sydd yn dangos sut i hyfforddi eich hun a hefyd sut i fwyta'n iach er mwyn chwarae fel nhw. Rŵan mae o eisiau bwyta pysgod; llysiau efo lliwiau gwyrdd, oren a melyn; ffrwythau; reis brown; dim gormod o bwdin. Cyn iddo fwyta, mae o'n gwneud yn siŵr bod y bwyd yn iach. Fedrwn i byth ei ddarbwyllo mor effeithiol â hynny!

Sunday, December 29, 2013

ffynnon siocled

Es i fwffe Tsieineiaidd i ginio ynghyd â'r teulu a ffrindiau. Roedd yna ffynnon siocled - cewch chi "drochi" bananas, mefus a marshmallows yn y siocled. Roedd bron i mi flasu tamaid ond penderfynais beidio wedi gweld y rhybudd i'r rhieni - peidiwch â gadael i'ch plant "drochi" eu bysedd. 

Saturday, December 28, 2013

adolygiad

Gwylais Thermae Romae roeddwn i'n edrych ymlaen at ei weld dros flwyddyn. Rhaid cyfaddef fy mod i wedi cael fy siomi. Dydy'r ffilm ddim cystal â'r manga gwreiddiol, ond tybiwn i fod hyn yn digwydd yn aml pan droir llyfrau'n ffilmiau. Collodd o elfen o ddigrifwch cynnil. Rhaid canmol fodd bynnag dewis y prif actor sydd yn berffaith ar gyfer y cymeriad, a bod y ffilm wedi cael ei saethu yn Rhufain wrth gyflogi mil neu ddau o'r bobl leol a oedd yng ngwisg y cyfnod. 

Friday, December 27, 2013

rysáit newydd arall

White bean chicken chili ydy hi. Ces i hwn o'r blaen ac roeddwn i eisiau ei goginio i'r teulu. Mae o dipyn yn wahanol i'r chili traddodiadol ond yn flasus iawn. Wnes i ddim defnyddio taragon ac roedd rhaid ychwanegu llawer mwy o botes er mwyn bwydo naw ohonon ni! Mi wnes i ddefnyddio llefrith heb lactos yn lle hufen ar gyfer un o'r plant sydd ag alergedd i lefrith.

Thursday, December 26, 2013

syrpreis!

Eleni mae pawb gartref dros Nadolig ac mae'r tŷ yn llawn dop. Agoron ni'r anrhegion ddoe wedi i fy merch hynaf a'i gŵr ymuno â ni. Dan ni i gyd wedi cofrestri ar wefan 11 Pipers a sgrifennu beth dani eisiau'n anrhegion. Ces i sgarff ysgafn a DVD Thermae Romae. (O'r diwedd dw i'n cael ei weld!) Un peth arall hollol annisgwyl er fy mod i wedi ei roi o ar y rhestr - MAC Book (wedi'i adnewyddu) ! Yn aml iawn roedd rhaid i mi aros fy nhro ar y cyfrifiadur pan fod y plant iau adref, ac felly roeddwn i'n gobeithio perchen ar fy un i am sbel. Ac eto, doeddwn i ddim yn disgwyl derbyn un go iawn; rhoddais hwn ar y rhestr er mwyn dangos fy rhwystredigaeth a dweud y gwir! Rŵan ca' i ddefnyddio cyfrifiadur pryd bynnag dw i eisiau.

Wednesday, December 25, 2013

nadolig

Wele, bydd y wyryf yn beichiogi, ac yn esgor ar fab, a gelwir ef Immanuel - y mae Duw gyda ni.

Nadolig Llawen i bawb!

Tuesday, December 24, 2013

nova

Dwedodd Jim Atkins fyddai fo'n cynghori rhaglen ar NOVA ynglŷn â Chromen Brunelleschi ym mis Chwefror yn ogystal â'r erthygl yng Nghylchgrawn National Geographic. Des o hyd i glip sydd yn edrych yn ofnadwy o ddiddorol. Does gen i ddim cabl teledu ac felly gobeithio y ca' i weld y rhaglen gyfan ar y we. Edrycha' i ymlaen!

Monday, December 23, 2013

myffins moron

Dw i wedi casglu ryseitiau newydd dros dymor Nadolig, a dyma brofi un ohonyn nhw, sef myffins moron. Mae yna ryseitiau amrywiol a hon ydy fy newis. Pan welais y cymysgedd cyn ei grasu, ces i dipyn o ofn gan fod yna gymaint o foron; roedd o'n hollol oren a dweud y gwir! Roedd y myffins yn ofnadwy o flasus. Roeddwn i'n teimlo'n dda hefyd yn gwybod fy mod i'n cymryd llawer o fitamin A. :)

Mi wnes i ddefnyddio ond blawd gwyn, a cheirch yn lle wheat germ. Mae llond llwy fwrdd o fanila'n swnio'n ormod; mi wnes i ddefnyddio llond llwy de ohono fo.

Sunday, December 22, 2013

erthyglau eraill ar y gromen

Des o hyd i gyfres o erthyglau arall ardderchog ar Gromen Brunelleschi. Mae yna 12 sydd yn llawn o wybodaeth arbennig o ddiddorol gan Jim Atkins. Mae pob erthygl yn disgrifio gwahanol agwedd o'r gromen, y pensaer a'r hanes yn fanwl mewn modd clir a brwdfrydig. Erbyn i mi gyrraedd y bennod olaf, roeddwn i'n rhannu ei gyffro ac yn cerdded efo fo o'r orsaf trên at y gromen ac i fynnu'r grisiau. Does ryfedd nad oedd yn medru peidio â gweiddi o ben y gromen. Sgrifennais ato fo a chael ateb clên (eto.) Dwedodd fydd cylchgrawn National Geographic yn cyhoeddi erthygl ar y gromen honno ym mis Chwefror y flwyddyn nesa. Mi bryna' i gopi'n bendant.

Saturday, December 21, 2013

pŵer gwrando

Mae Alberto (Italiano Automatico) yn pwysleisio'n aml pa mor bwysig ydy'r gwrando wrth ddysgu iaith estron, a gwrando ar bethau dach chi'n eu mwynhau. Sylfaen ei fodd ydy hyn a dweud y gwir. Dw i'n cytuno'n llwyr. Pan oeddwn i'n dysgu Saesneg yn ddwys yn Tokyo, roeddwn i'n gwrando ar gomedi radio Americanaidd drwy'r amser fel dwedais o'r blaen. Er bod gan y sefydliad fodd arloesol ac effeithiol i ddysgu Saesneg, dw i'n credu'n siŵr mai'r gwrando a wnaeth gwahaniaeth i mi. Fedrwn i ddim yn siarad Saesneg o gwbl pan ddechreuais yno er fy mod i wedi dysgu am chwe blynedd yn yr ysgol fel pawb arall. Pan orffennais y cwrs, roeddwn i braidd yn rhugl. Doeddwn i ddim yn sylweddoli hyn i gyd ar y pryd, ond dw i'n gwybod bellach, diolch i Alberto.

Friday, December 20, 2013

storm arall

Roedd hi fel gwanwyn am ddyddiau wedi'r eira, ond mae storm aeaf arall ar ei ffordd; mae'r tymheredd yn prysur ddisgyn. Dw i newydd orffen siopa. Prynais ddigon o fwydydd i bara am ddyddiau a hefyd dros ginio Nadolig. Cawson ni drwsio drws y garej o'r diwedd. Falch iawn bod ein ceir yn ddiogel y tro hwn. Methodd un o'r ddau (un o Hawaii!) yn ystod y storm ddiwethaf. Gobeithio bydd y ffyrdd yn ddigon da'r wythnos nesaf pan ddaw'r plant hyn dros Nadolig.

Thursday, December 19, 2013

ryseitiau newydd

Coginiais gawl briwgig eidion a oedd yn ffefryn yr Arlywydd Ronald Reagan a chacen afalau a oedd yn ffefryn yr Arlywydd Van Buren. Doeddwn i erioed wedi defnyddio hominy o'r blaen. Mae o'n blasu fel pop-corns. Roedd y cawl yn arbennig o dda. Gan fod y rysáit yn aneglur ynglŷn â'r nifer o afalau, dewisais ddau, ond mae'n amlwg bod ond un a oedd angen. Roedd yn cymryd amser hir i grasu'r gacen oherwydd bod yna ormod o leithder. Roedd yn flasus beth bynnag. Heno, mi goginia' i macaroni cheese caseroll a oedd yn ffefryn yr Arlywydd Ronald Reagan.

Wednesday, December 18, 2013

anrheg funud olaf

Dw i newydd gofio fy mod i heb yrru anrheg Nadolig at fy mam eleni. Panig! Fel arfer dw i'n gyrru ffrwythau sych a chnau, ond yn lle redeg at siop i'w prynu nhw, penderfynais archebu lluniau o'i wyrion mewn ffurf poster. Mae yna lawer o ddewis ar wefan Walmart a dewisais bum llun i wneud poster fel hwn. Yn anffodus bydd hi'n cymryd pythefnos; bydd rhaid i mi ddweud wrth fy mam y byddai ei hanrheg yn cyrraedd yn hwyr. O leiaf, dw i'n siŵr bydd y poster yn ei phlesio.

Tuesday, December 17, 2013

pot luck heb y myfyrwyr

Roedd yna pot luck arall yn Ysgol Optometreg heddiw. Gan fod y myfyrwyr i gyd ar wyliau bellach, dim ond yr athrawon a'r staff a oedd yno. A dweud y gwir, doedd o ddim yn dda. Rhaid i mi gofio hyn a pheidio mynd flwyddyn nesaf! Cyn cychwyn bwyta, es at NET Building a dringo fy nghrisiau. 

Mae'n gynnes iawn eto ond dan ni'n disgwyl storm eira arall dros benwythnos.

Monday, December 16, 2013

merched 7-5-3

Y post gan Tokyobling hwn yn fy atgoffa i o fy mhrofiad fel Shichi-go-san girl amser maith yn ôl. Prynodd fy mam kimono pert i mi er ein bod ni braidd yn dlawd ac aeth hi â fi i deml gyfagos. Ces i bowdwr ar fy wyneb yn ôl yr arferiad ond roedd fy nhrwyn mor goslyd fel fy mod i'n methu peidio â'i grafu. Dw i'n ymddangos yn anhapus yn y llun; dw i'n cofio nad oeddwn i eisiau cael tynnu fy llun gan y ffotograffydd proffesiynol yno oherwydd fy mod i'n ymwybodol byddai'n ddrud, ac roedd ofn gen i dros fy mam.

Sunday, December 15, 2013

diwrnod i orffwys

Mae NET Building ar gau dros benwythnosau ac felly roeddwn i'n mynd i fyny a lawr y grisiau yn fy nhŷ i ddoe. Mae ond 12 ohonyn nhw; roedd rhaid gwneud 40 set er mwyn cyrraedd y nod. Roedd fy nghoesau'n brifo'n ofnadwy ddau ddiwrnod cyntaf, ond roeddwn i'n teimlo'n well ddoe. Efallai fy mod i wedi pasio'r llinell. Dw i ddim yn dringo heddiw. Rhaid cael gorffwys un diwrnod bob wythnos. Edrycha' i ymlaen at yfory. Dw i ddim yn gwirioni ar y dringo ei hun ond y ffaith fy mod i'n mynd yn gryfach, ac mae hyn yn golygu bydda i'n medru dringo Cromen Florence heb achosi niwed i fi fy hun.

Saturday, December 14, 2013

diwedd yr eira

Dechreuodd fwrw glaw ddoe ac mae'r glaw'n prysur doddi'r eira a oedd yn cuddio'r ddaear bron i wythnos. Dw i'n falch bod y teulu wedi bod yn ddiogel er bod fy ail ferch bron wedi cael damwain; methodd hi atal wrth y draffordd oherwydd y rhew a throi i'r tir isel yn hytrach na mynd ymlaen. Cymerodd ryw ddeg munud iddi fynd i fyny ar yr heol ond roedd popeth yn iawn wedyn. Tynnais lun o'r olion teiars cyn iddyn nhw ddiflannu. 

Friday, December 13, 2013

ymarfer dringo

Dw i ddim yn dringo grisiau'n aml ers symud i America, felly penderfynais ymarfer dringo. Yr unig adeilad tal yn y dref hon ydy NET Building yn y brifysgol. Rhaid mynd i fyny ac i lawr pedair gwaith oherwydd bod yna ond 112 o risiau. Es i yno ddwywaith bellach. (Mae fy nghoesau'n brifo!) Dw i eisiau ei wneud mor aml ag y bo modd o hyn ymlaen. Awgrymodd Ross King i mi ddringo'r tŵr yn ei ymyl hefyd er mwyn cael golwg dda o'r gromen. Gobeithio y bydda i'n ddigon ffit i gyflawni popeth erbyn mis Mai!

Thursday, December 12, 2013

penderfyniad

Ces i fy nghyfareddu gan hanes cromen Brunelleschi yn Florence. Dw i eisiau dringo i ben y gromen er bod yna 463 o risiau a does dim lifft. Efallai bydd rhai eisiau ei wneud er mwyn cael y golygfeydd godidog o'r copa, ond yr atyniad i mi ydy cyfle i weld y gromen anhygoel honno yn fanwl, a hefyd dringo i fyny (ac i lawr) yr un grisiau a ddefnyddiwyd gan y seiri maen 600 mlynedd yn ôl. Doedd gen i ddim diddordeb yn Florence o'r blaen a dweud y gwir; dechreuais ddarllen y llyfr hwn er mwyn gwybod tipyn amdani hi gan fy mod i'n hedfan yna cyn mynd i lefydd eraill yn yr Eidal flwyddyn nesaf. Doeddwn i ddim yn disgwyl ffeindio pethau diddorol felly.

Wednesday, December 11, 2013

gorffen y llyfr

Dw i newydd orffen y llyfr, Brunelleschi's Dome. Roedd o'n hynod o ddiddorol hyd yn oed i mi sydd heb ddiddordeb o gwbl mewn mathemateg. Dw i'n credu'n siŵr mai yr awdur sydd yn haeddu'r canmol oherwydd gallai'r pwnc fod yn ddiflas. Sgrifennais at Ross King yn dweud popeth a oedd yn fy meddwl neithiwr, a chael ateb clên iawn ganddo'r bore 'ma. Tasai fo sgrifennu gwerslyfrau hanes, byddai pawb yn awyddus i ddysgu!

Tuesday, December 10, 2013

dal ar gau, eto

Mae'r ysgolion yn dal ar gau! Fedra i ddim cwyno oherwydd bod y strydoedd yn dal yn llithrig. Dw i wedi bod yn prysur helpu'r gŵr i farcio'r prawf, a pharatoi llythyr Nadolig i'r ffrindiau. Mae yna naw ohonon ni yn y teulu, ac felly mae'n dipyn o her i ddisgrifio beth ddigwyddodd eleni efo llun mawr ar un dudalen. Dw i wedi blino; rhaid i mi ymarfer corf rŵan.

Monday, December 9, 2013

dal ar gau

Mae'r ysgolion a'r brifysgol yn dal ar gau heddiw. Es i Braum's i brynu llefrith prynhawn ddoe (a dweud y gwir, y gŵr a yrrodd) a gweld bod y strydoedd yn dal yn llithrig. Diwrnod arholiad y tymor i'r myfyrwyr yn Ysgol Optometreg ydy hi heddiw, ond rhaid iddyn nhw ei sefyll ar lein am 1 o'r gloch. Mae'r gŵr yn ceisio ei sgrifennu ers dyddiau heb gael digon o gwsg. Roedd y ddau blentyn ifancaf yn cael hwyl yn yr eira'n adeiladu wal a thylluan. Dyma'r eira trwm cyntaf ers dwy flynedd.

Sunday, December 8, 2013

nick

Cafodd gwasanaeth yr eglwys ei ganslo heddiw oherwydd y perygl ar y strydoedd, a dyma gael un gartref efo'r teulu. Gwyliodd glip am Nick Vujicic sydd wedi cael ei eni heb freichiau a choesau. Os dach chi'n ond gweld ei wyneb siriol a chlywed ei jôc, dydych chi byth yn dychmygu bod ganddo gymaint o anfantais ofnadwy felly. Wrth gwrs nad oedd o'n siriol bob amser; ceisiodd ladd ei hun pan oedd yn ddeg oed. Rhaid clywed ei hanes er mwyn gwybod beth sydd wedi newid ei fywyd. Pan oedd fy ail ferch yn teimlo'n is yn Corea, cafodd hi gyfle i'w gyfarfod. Cewch chi ddychmygu beth ddigwyddodd iddi wedyn.

Saturday, December 7, 2013

wedi'r eira

Cafodd popeth ei ganslo ddoe ac roedd y teulu i gyd gartref yn ddiogel. Heddiw mae'r haul (gwan) yn cael ei weld er bod y tymheredd yn isel iawn (14F/-10C.) Dim ond fy ail ferch a fydd yn gweithio yn y prynhawn. Mae'r gŵr eisiau cerdded yn y goedwig efo'n mab ni nes ymlaen. Roeddwn i'n treulio dros awr yn sgrifennu post yn Eidaleg ar Face Book at Alberto'n disgrifio beth mae'r bobl yn Japan yn ei wneud ar Nos Galan. Roedd yn dipyn o her ond diddorol.

Friday, December 6, 2013

yr eira

Mae'r eira wedi cyrraedd; mae'r ysgolion a'r brifysgol wedi cael eu canslo; ces i drwsio'n gwresogydd ni; mae gynnon ni ddigon o fwyd. Mae un o'r merched i fod i weithio heno ond gobeithio bydd y siop yn cau ei drws; pwy sydd eisiau bwyta hufen iâ heddiw? Rhaid parcio'r ceir tu allan oherwydd bod drws y garej ddim yn gweithio ers dyddiau ond does gan Kurt ddim amser i'w drwsio eto. 

Thursday, December 5, 2013

yn barod am y storm

Dydy hi ddim yn rhy oer eto ond bydd y storm eira ar ei ffordd. Mae'r ysgol wedi cael ei chanslo ymlaen llaw. Dw i wedi benthyg llyfrau ddoe, ac felly bydd gen i ddigon i'w wneud yn ystod y storm. Mae un ohonyn nhw'n ddiddorol iawn - llyfr am Filippo Brunelleschi a gynlluniodd cromen enfawr Santa Maria del Fiore yn Firenze yn 1418. Ddim pensaer oedd o, ond gof aur a chlociwr. Roedd yna gystadleuaeth gynllunio ar gyfer y gromen; y fo a enillodd. Er ei fod o'n llyfr ffeithiol, dydy o ddim yn sych fel llyfrau hanes arferol. Dw i newydd orffen yr ail bennod ac yn awyddus i ddod yn ôl ato fo i wybod am antur Filippo. Brunelleschi's Dome gan Ross King

Wednesday, December 4, 2013

58F - 24F

Mae gynnon ni dywydd mwyn yn ddiweddar. Heddiw mae'n 58F/14C gradd ond yn ôl rhagolygon y tywydd, cawn ni storm eira yfory a'r diwrnod wedyn. Bydd y tymheredd yn gostwng at 24F/-4C ddydd Gwener. Dw i'n hen gyfarwydd â thywydd eithafol Oklahoma. A' i siopa heddiw a phrynu digon o fwydydd i bara am dipyn rhag ofn na cha' i yrru am ddyddiau.

Tuesday, December 3, 2013

reuben

Mae gan fy merch hynaf gi mae hi'n gwirioni arno fo. Mae o'n beniog a hoffus. Yn anffodus mae ganddo stumog sensitif. Ym mhob cinio Gŵyl Ddiolchgarwch, bydd o'n gyffro i gyd pan ddechreuith fy ngŵr dorri twrci. Eleni, bwytodd fwy nag arfer yn hapus. Roedd yn ymddangos yn iawn ond clywais fod o'n sâl ddiwrnod wedyn. Druan o Reuben.

Monday, December 2, 2013

lluniau annisgwyl

Ces i amser hyfryd efo'r teulu i gyd yn Norman. Wrth i'r plant dyfu, mae'n mynd yn fwy anodd i ni ymgasglu. Efallai na chawn fy ail ferch flwyddyn nesa; mae'n debyg bydd hi rhywle yn Ewrop. 

Cyn ffarwelio'n gilydd, cawson ni ginio mewn tŷ bwyta newydd. Ces i bentwr o salad efo cynhwysion anhygoel o amrywiol a ffres. Roedd yn ddewis addas ar ôl y cinio twrci. Wedi gorffen y bwyd, codais fy llygaid a sylwi bod yna nifer mawr o ffotograffau ar y waliau. Ac yn eu mysg mae yna hanner dwsin o olygfeydd Fenis - golygfeydd annodweddiadol hyd yn oed. Doeddwn i ddim yn disgwyl eu gweld nhw mewn tŷ bwyta yn Norman. Methais ofyn yr hanes tu ôl iddyn nhw. 

Saturday, November 30, 2013

bargen!

Wedi ffarwelio â fy ail ferch sydd yn gorfod mynd adref yn gynt oherwydd ei swydd, es i efo dwy eraill i siopa. Mae yna gynifer o siopau mawr a bach ac felly mae mynd i siopa yma'n bleser i mi. Yn gyntaf, aethon ni i Goodwill, fy hoff siop elusen! Prynais flows berffaith efo fy hoff liwiau. Yna i Kohl's i brynu clustogau ar gyfer y seddau cegin, bag ysgol a het gynnes i'r mab. Des o hyd i rai perffaith ar fargen fawr a oedd ar fin orffen mewn hanner awr. Talais $71 am bopeth wrth arbed $144. Aethon ni i siop neu ddwy wedyn ond phrynais i ddim byd. Prynodd fy merched rhywbeth da hefyd a daethon ni adref yn fuddugoliaethus.

Friday, November 29, 2013

cinio gŵyl ddiolchgarwch

Mae pawb yma yn nhŷ fy merch hynaf yn Norman er mwyn treulio penwythnos Gŵyl Ddiolchgarwch. Cawson ni ginio mawr heddiw yn lle ddoe, ac mae'r plant yn cysgu'n braf rŵan cyn iddyn nhw godi e cael hwyl efo'i gilydd tan yn hwyr. Roedd yn ddiwrnod braf a roedden ni'n medru tynnu lluniau ohonon ni ar gyfer llythyr Nadolig. Dw i wedi blino ond fodlon. Yfory dan ni'n siopa!

Thursday, November 28, 2013

gŵyl ddiolchgarwch

Dw i'n ddiolchgar am lawer o bethau:
am y teulu doniol, hapus
am fy iechyd
am y gwely clyd
am y to sych
am y dŵr glân a digon o fwyd
am MAC
am y rhyngrwyd
yn anad dim, am Iesu Grist sydd wedi marw er mwyn talu am fy mhechod, ac sydd atgyfodi fel cawn obaith tragwyddol.

Wednesday, November 27, 2013

gwaith iard

Roeddwn i'n rhy flinedig sgrifennu post ddoe wedi gweithio yn yr iard efo fy mab am dair awr. Mae'r tymor i dwtio'r dail sydd yn cuddio'r iard wedi hen ddod. Gan fod gwyliau'r ysgol newydd ddechrau, penderfynais wneud y gwaith efo fy mab. (Dydy'r merched ddim yn ei wneud oherwydd bod ganddyn nhw asthma.) Mae fy mhenelinoedd yn brifo ond dw i'n fodlon gweld yr iard flaen dwt. Rŵan does dim rhaid i mi boeni byddai'n dail ni'n cael eu chwythu at iardiau'r cymdogion. Dw i'n gadael yr iard gefn fel mae hi; bydd y dail yn troi'n bridd yn araf bach.

Monday, November 25, 2013

i honduras

Arosodd efo ni ffrind da fy ail ferch neithiwr. Roedden nhw'n rhannu tŷ cyn i fy merch fynd i Corea, ac felly roedd ganddyn nhw gymaint o bethau i siarad amdanyn nhw. Doedd un nos ddim yn ddigon ond cawson nhw gyfle i siarad o leiaf cyn cychwyn eu cyfnodau newydd yn eu bywydau. Ym mis Chwefror bydd fy merch yn mynd i'r Eidal ac i Honduras mae'r llall yn mynd fel cenhades drwy amaethyddiaeth, ei harbenigedd. Bydd hi'n bwriadu aros yno am flwyddyn cyn meddwl am y cam nesaf. Hwyl am y tro felly.

Sunday, November 24, 2013

gormod o goffi

Fi sydd yn paratoi coffi, ayyb yn yr eglwys bob bore Sul. Weithiau na fydd digon a bydd rhaid i mi ymddiheuro, a thro arall bydd yna ormod. Bydd rhywun yn fodlon mynd â'r gweddill o goffi efo nhw o dro i dro, ond fel arfer bydda i'n gorfod ei dywallt yn y sinc. Mae'n anodd gwybod ddylwn i ddechrau pot arall neu beidio cyn eistedd yn fy sedd. Heddiw roedd pawb yn prysur fynd adref wedi'r gwasanaeth, ac fel y canlyniad aeth hanner o'r coffi wedi mynd i lawr y draen yn anffodus. 

Saturday, November 23, 2013

prynhawn sadwrn

Wedi bore ofnadwy o brysur, mae gen i amser i sgrifennu fy mlog o'r diwedd wrth yfed paned o de. Mae stiw cig eidion yn y crockpot bellach ac mae o'n prysur goginio ei hun! Bydd gynnon ni westai heno sydd yn aros am ddwy noson. 

Gofynnodd fy merch hynaf beth fyddwn i eisiau'n anrheg Nadolig. Atebais, "DVD Thermae Romae!" Dw i dal heb ei wylio er fy mod i eisiau ei wylio ers misoedd. Gobeithio y bydda i'n dod o hyd iddo dan goeden Nadolig eleni. 

Mae'r peiriant golchi newydd orffen. Rhaid i mi fynd i ddechrau llwyth arall a pharatoi ystafell ar gyfer ein gwestai ni.


Friday, November 22, 2013

pryd o fwyd sbeislyd

Coginiodd fy merch pryd o fwyd Coreaidd neithiwr. Roedd angen mynd i Tulsa i brynu'r cynhwysion arbennig. Roedd hi'n awyddus i goginio un o'i hoff brydau o fwyd dros ei theulu.  Kimuchi - llysiau wedi'u mwydo mewn saws sbeislyd ydy'r cynhwysyn a ddefnyddir yn aml yn Corea. Oedd! Roedd yn hynod o sbeislyd (a blasus) er ei fod o'n gyffredin yn ôl fy merch! Gobeithio bod y garlleg a'r pupur poeth yn gwneud lles i ni i gyd sydd wedi dal annwyd.

Thursday, November 21, 2013

triniwr gwallt personol

Roeddwn i a'r teulu'n edrych ymlaen at gael torri'n gwallt ni gan fy ail ferch. Rhwng ei dyletswydd a diddordebau amrywiol, mae hi'n ein gwasanaethu ni'n siriol. Tro fy mab oedd o ddyddiau'n ôl. Roeddwn i'n ceisio sylwi sut mae hi'n ei wneud fel bydda i'n medru gwella'r sgil; y fi sydd yn gwneud y gwaith fel arfer. Roedd yn edrych yn syml iawn ac roedd y canlyniad yn ardderchog, ond wrth gwrs mae'n hawdd gweld na gwneud. Cawn ni weld.

Wednesday, November 20, 2013

cinio diolchgarwch

Mae'r Ŵyl Diolchgarwch ar y trothwy. Mae pawb yn Ysgol Optometreg a'u teuluoedd yn edrych ymlaen at y cinio hwn bob blwyddyn. Darparwyd twrci a chig moch gan yr ysgol; mae pawb yn dod â phopeth arall; mi wnes i gaserol ffa gwyrdd. Roedd y cinio i fod i ddechrau am hanner dydd, ond pan gyrhaeddais 20 munud yn gynt, roedd rhai pobl yn bwyta'n barod! Roedd mwy na digon beth bynnag, a ches i ynghyd â'r teulu ginio braf. 

Tuesday, November 19, 2013

y cam nesaf iddi

Dw i'n llawn cyffro! Mae fy ail ferch newydd sicrhau lle yn yr Eidal! Bydd hi'n aros efo teulu a dysgu Saesneg iddyn nhw yn ardal le Marche am dre mis. Mae yna chwech yn y teulu - y rhieni, nain a thri o blant. Bydd hi'n gwirfoddoli mewn ysgol hefyd. Mae hi wedi bod yn dysgu Eidaleg o dro i dro, ond rŵan mae hi eisiau dysgu o ddifri. Hwrê! Bydd gen i bartner.

Monday, November 18, 2013

dirwy

Roedd fy merch yn gyrru at gyflymder 65 m.y.a. ar draffordd neithiwr, ond doedd hi ddim yn gweld yr arwydd traffig yn y tywyllwch wrth fynd drwy bentref bach. Cafodd hi ei hatal gan yr heddlu. Dyna'r tro cyntaf iddi sylweddoli bod ei thrwydded draffig wedi dod i ben ddau fis yn ôl. Cafodd hi ei dirwyo o $500. Roedd yn siomedig iawn pan ddaeth adref, ond clywodd gan ei chwaer wedyn gallai'r peth fod wedi llawer gwaeth. Fe wnaeth yr heddlu ganiatáu iddi yrru'n ôl yn lle cael towio ei char. Es i â hi at y swyddfa draffig iddi adnewyddu ei thrwydded y bore 'ma. Cafodd un newydd heb broblem. Dan ni i gyd yn ddiolchgar.

Sunday, November 17, 2013

siop ar y cwch

Mae'r clementines hynny'n edrych yn ofnadwy o ffres a blasus. Doeddwn i ddim yn disgwyl eu gweld nhw yn Fenis. Mae'r siop adnabyddus ar y cwch wrth ymyl Campo San Barnaba'n gwerthu pob math o ffrwythau a llysiau. Prynais innau ffrwythau sawl tro gan gynnwys mefus anhygoel o felys ar fy ffwrdd yn ôl i'r llety. Roeddwn i'n ofnadwy o hapus cael fy nghanmol gan un o'r gweithwyr yno pan dynnais fag plastig allan o fy mag llaw i roi'r ffrwythau ynddo fo. "Ottimo!" (ardderchog) meddai.

Saturday, November 16, 2013

tynnu lluniau neu beidio

Ydy hi'n bosib peidio tynnu lluniau na sgrifennu nodiau wrth gerdded o gwmpas Fenis, fel mynnodd Paolo Barbaro a Tiziano Scarpa? Mae'n haws dweud na gwneud. Ceisiais innau am dipyn; pan es i ar y bws dŵr ar y Gamlas Fawr am y tro cyntaf ben bore, penderfynais beidio cyffwrdd fy nghamera ond mwynhau'r golygfeydd i'r eithaf. Roedd yn brofiad anhygoel, ond yn fuan ces i fy nhrechu a dechrau tynnu lluniau fel y gweddill o'r twristiaid. A dweud y gwir, dw i'n fodlon fy mod i wedi dilyn fy nyhead; mae gen i luniau i fy atgoffa i o'r pythefnos rhyfeddol. Byddai'n anodd cofio fy mhrofiad hebddyn nhw.

Friday, November 15, 2013

un o'r tri

O'r tri llyfr a brynais yn ddiweddar, dw i'n gwirioni ar hwn - Venice for Pleasure gan J.G. Links. Mae yna wahaniaeth mawr rhwng hwn a'r nifer o lyfrau eraill am Fenis - mae o'n hwyl. Mae modd sgrifennu Links yn apelio ata i. Dw i'n hapus gweld cynifer o luniau gan Canaletto, fy hoff artist hefyd; does ryfedd - arbenigwr adnabyddus Canaletto oedd Links ac yntau heb gael addysg swyddogol. (Newydd ddarllen amdano fo wnes i!) Prynais y llyfr hwn yn ail-law mewn cyflwr ardderchog am $4. Fedra i ddim credu bod rhywun wedi ei gwerthu. Na fydd o byth yn gadael fy ochr.

Thursday, November 14, 2013

mae google wedi gorchfygu fenice

Hon ydy'r neges a ddarllenais mewn sawl erthygl y bore 'ma. Gan fod cerbydau gan gynnwys beiciau'n cael eu gwahardd yn Fenis, roedd gweithwyr Google yn gorfod cerdded efo camera trwm ar eu cefn o gwmpas y dref yn mynd i fyny a lawr dros 400 o bontydd; roedd rhai ohonyn nhw'n cael mynd ar gondola'n braf! Bydd popeth yn barod mewn wythnosau, medden nhw. Dyma gip o beth sydd yn dod.

Wednesday, November 13, 2013

HON - HNL

Mae fy merch hynaf a'i gŵr yn mynd i ymweld â'u taid a nain yn Hawaii ar ôl y Nadolig. Roedd hi'n chwilio am docyn awyren rhad a dod o hyd i bris da - tua $500. (Talodd fy ngŵr $1,300 y tro diwethaf.) Roedd hi ar fin ei brynu a sylweddoli'r camgymeriad. Roedd hi'n meddwl bod HON yn golygu Honolulu, ond fel mae'n digwydd mai HNL ydy Honolulu; HON ydy maes awyr yn South Dakota! Mae hi newydd brynu tocyn am $934 sydd yn rhesymol.

Tuesday, November 12, 2013

y funud fach

Er bod ni wedi methu gweld yr orymdaith ddoe, roedd yn braf cerdded drwy'r brifysgol ar ein ffordd i ganol y dref, a gweld y dail lliwgar ym mhob man. Mae Masarn yn arbennig o hardd. Fedrwn i ddim peidio tynnu llun neu ddau efo fy merched yn y ffrâm.

Monday, November 11, 2013

veterans day

Collais a'r plant yr orymdaith! (Does dim ysgol heddiw.) Roedden ni'n rhy hwyr cyrraedd canol y dref. Aethon ni i ginio'n syth, cinio i godi pres i'r cyn-filwyr. Ces i chili gwyn (ffa, tatws, ŷd, cyw iâr) am y tro cyntaf. Roedd yn flasus iawn. 

Diolch yn fawr i'r milwyr i gyd sydd wedi gwasanaethu ac sydd yn gwasanaethu dros eu gwlad. Dydy rhyddid ddim yn rhad ac am ddim.

Llun: fy nhad-yng-nghyfraith sydd wedi gwasanaethu yn Ail Ryfel y Byd a Rhyfel Fietnam

Sunday, November 10, 2013

noson hapus

Gan fod y ddwy ferch yn gweithio noson fy mhenblwydd, aethon ni i dŷ bwyta i ddathlu'r diwrnod wedyn. Does dim llawer o ddewis yn y dref, ond dw i a'r teulu'n fodlon mynd i Napoli's unrhyw dro. Felly a fu. Fel arfer bydda i'n yfed dŵr, ond y tro hwn, gan ei bod hi'n ddiwrnod arbennig, ces i wydraid o win pinc. Mae'n bob tro anodd penderfynu beth i'w gael yn Napoli's achos bod popeth yn swnio'n flasus. Dewisais spaghetti arrabbiata efo cyw iâr a oedd yn dda iawn. Wedi'r gweinydd clên ddod â'n bwyd ni, roedd pawb yn prysur edrych yn fanwl bwyd pawb arall am sbel cyn bwyta ei fwyd! Ar ôl cyfnewid tamaid efo'n gilydd, dechreuon ni fwyta'n bwyd ni'n hapus. Rhannon ni un Tiramisu i ddiweddu'r pryd o fwyd. Noson hapus.

Saturday, November 9, 2013

cardiau penblwydd

Ces i gardiau penblwydd arbennig gan y plant ddoe. Mae'r ddau'n gysylltiedig â Fenis, un â Paddington (fy ffefryn,) ac un â Nicola Legrottaglie, fy hoff chwaraewr pêl-droed. Maen nhw i gyd yn hyfryd ond gan nad oes digon o le i bostio popeth, dewisais hwn gan fy mab ifancaf. Mae'r neges ar grys Nicola'n dweud, "Iesu ydy'r gwirionedd."

Friday, November 8, 2013

darllen y tri llyfr

Maen nhw wedi cyrraedd ddyddiau'n ôl - y tri llyfr am Fenis a archebais, a dw i'n mwynhau darllen pob un ohonyn nhw bob dydd. Drwy eu darllen dw i'n sylweddoli bod yna gymaint o lefydd methais i ymweld â nhw; llefydd anhysbys ond swynol yn llygaid y rhai sydd yn gwirioni ar Fenis. Er engraifft, roeddwn i'n cerdded yr un ffordd bob dydd rhwng fy llety a'r ysgol Eidaleg. Dw i'n difaru fy mod i'n fodlon ffeindio'r llwybr byrraf heb geisio profi'r lleill. Roeddwn i wrthi'n "cyrraedd" y cyrchfannau ar fy nodiadur yn hytrach na blasu'r pethau a oedd o fy nghwmpas i. 

Thursday, November 7, 2013

prynu tocyn awyren

Des i o hyd i docyn awyren "rhad" i Japan ar y we. Gan fy mod i'n bwriadu mynd eto ym mis Mawrth flwyddyn nesaf er mwyn ymweld â fy mam, penderfynais i gymryd mantais ar y cyfle da. Tra oeddwn i'n aros am hyn a'r llall, fodd bynnag, cododd y pris gan $200 mewn oriau! Roedd yna un arall efo'r un pris ond ffordd lai dymunol; prynais hwnnw ar unwaith. Dysgais wers; pan wela' i gynnig da, dylwn i weithredu heb oedi. $1,180 oedd y pris; talais $1,900 y tro diweddaf.

Wednesday, November 6, 2013

cyri

Dw i'n coginio cyri yn y crock pot ar hyn o bryd. I fod yn fanwl, y crock pot sydd yn coginio'r cyri; dim ond rhoi'r cynhwysion ynddo fo awr yn ôl wnes i. Dechreuodd roi arogl braf. Bydd yn gorffen mewn pedair awr. Fel arfer, dw i'n defnyddio roux cyri Japaneaidd. Dyma'r tro cyntaf i mi baratoi cyri mewn crock pot. Mi wnes i gymysgu dau rysáit ar y we. Gobeithio y cawn ni gyri blasus!

Tuesday, November 5, 2013

i made a promise

Mae o newydd gyrraedd - llyfr gan Nicola Legrottaglie wedi'i gyfieithu i'r Saesneg. Dw i wedi bod wrthi'n darllen yr llyfr yn Eidaleg; a dweud y gwir, mae'n anodd. Efallai fy mod i'n llwyddo i ddeall 70% wrth ddarllen yr un frawddeg sawl tro weithiau. Rŵan dw i'n cael deall popeth. Mae Nicola'n onest ac ostyngedig; dydy o ddim yn pregethu ond adrodd ei brofiad - sut mae nabod Iesu Grist wedi newid ei fywyd. Clywais fod nifer mawr o bobl wedi troi at Iesu drwy ei dystiolaeth. Mae'r llyfr yn werth ei ddarllen.

Monday, November 4, 2013

Daeth fy ail ferch â llond bag o ddail lliwgar a gasglodd o gwmpas y tŷ. Roedd hi ynghyd ei chwaer wrthi'n tynnu lluniau o'i moch cwta ar y dail. Roedd yr anifeiliaid bach yn ymddwyn yn dda oherwydd eu bod nhw'n prysur fwyta'r dail sych fel tasen nhw'n greision blasus. Collon ni un o'r tri'n ddiweddar yn anffodus ond mae'r ddau'n edrych yn fodlon yn cael cymaint o sylw gan eu perchennog. 

Saturday, November 2, 2013

wedi blino

O'r diwedd dw i'n cael eistedd a sgrifennu post wrth yfed cwpaned o seidr afal poeth. Roedd yn ddiwrnod llawn er bod o heb ddiweddu eto. Es i efo'r gŵr i'r brifysgol y bore 'ma i glywed ein merch ynghyd ei dosbarth darllen y storiâu byrion a cherddi a grewyd ganddyn nhw. Ffwrdd a fi i wneud y gwaith glanhau yn yr eglwys dilynwyd gan wibdaith fer i'r archfarchnad am fwydydd. Wedi dod adref, paratois ginio sydyn i'r teulu wrth gychwyn y peiriant golchi. Dw i newydd grasu dau ddwsin o fyffins pwmpen ar gyfer y potlwc i'r myfyrwyr o dramor heno. Dim ond y teulu sydd yn mynd. Dw i'n rhy flinedig; well gen i ymlacio adref gweddill y diwrnod.

Friday, November 1, 2013

arfer newydd

Wedi ffarwelio â'i chwaer aeth fy merch hynaf a'i gŵr yn ôl at IKEA a threulio oriau tan yn hwyr. Roedd digwydd bod yn noson Halloween ac roedd y siop bron yn wag. Cawson nhw amser hyfryd yn edrych ar bob dim yn hamddenol a chael swper yn y siop (peli cig Swedaidd!) Dwedodd hi fyddai'n arfer newydd iddyn nhw fynd i IKEA noson Halloween o hyn ymlaen!

Thursday, October 31, 2013

gwibdaith i ikea

Mae fy merch hynaf yn hoff iawn o IKEA ond does dim un lle mae hi'n byw ynddo. Y siop agosaf sydd yn Dallas, tua 170 milltir i ffwrdd. Ar ei ffordd i ymweld ei brawd sydd yn byw yn ar ardal, ynghyd ei chwaer, mae hi eisiau mynd yno. Yn ei thyb hi, IKEA ydy'r adeilad pwysicaf yn Dallas! Cyhoeddodd hi'n llawn cyffro ar Face Book. Roedd ffrind o Seattle yn tosturio drosti hi oherwydd ei fod o'n pasio o flaen y siop beunyddiol wrth gwneud neges! Mae hi a'i chwaer yn y siop rŵan yn llenwi'r troli'n hapus.

Wednesday, October 30, 2013

tri llyfr

Dw i wedi darllen llyfrau ar Fenis - ffeithiol a ffuglen. Roedd rhai ohonyn nhw'n hynod o dda tra roedd y lleill yn wastraff pres. Yn ddiweddar mae'n ymddangos fy mod i'n prynu llyfrau yn yr ail gategori. Byddwn i eisiau darllen mwy ond dw i ddim eisiau cymryd siawns chwaith. Penderfynais ofyn i'r awdurdod, sef awdur y wefan, a Lover of Venice. Roedd yn glên iawn yn rhoi i mi restr lyfrau, a dyma ddewis tri a'u harchebu ar unwaith. (Maen nhw'n ail-law ond mewn cyflwr da, meddai'r cwmniau.)
Venice Revealed
Venetian Stories
Venice for Pleasure

Edrycha' i ymlaen!

Tuesday, October 29, 2013

chwiorydd

Mae fy ail ferch yn ymweld â'i chwaer hyn yn Norman ar hyn o bryd. Dyma'r tro cyntaf iddyn nhw weld ei gilydd ers dwy flynedd. Ces i neges destun yn dweud bod nhw'n cael amser anhygoel o dda. Does ryfedd. Cafodd fy merch hynaf dorri ei gwallt gan ei chwaer sydd yn ferch drin gwallt, a chael lliwio ei gwallt efo "lliwiau amrywiol." Dw i heb weld llun ohoni hi eto. Yna, byddan nhw'n gyrru i Texas lle mae eu brawd yn byw ynddi.

Monday, October 28, 2013

goruchwyliaeth breifat

Pan welith y gwerthwyr anghyfreithlon yn Fenis yr heddlu, bant â nhw efo eu nwyddau i'r llwybrau culion nes i'r heddlu fynd. A dôn nhw'n ôl ddeg munud wedyn i ailgychwyn eu busnes.  Mi welais hyn fy hun. Maen nhw'n gwerthu nwyddau amrywiol yn ogystal â bagiau llaw yn ôl y tywydd -  ymbareli ar ddyddiau gwlyb (mi welais hyn hefyd); esgidiau glaw pan ddaw Aqcua Alta; sbectolau haul yn yr haf. Wrth gwrs bod nhw'n difetha bywoliaeth y masnachwyr lleol. Dydy patrôl yr heddlu ddim yn effeithiol o gwbl serch hynny. 

Rŵan mae gan y masnachwyr syniad er mwyn amddiffyn eu hun -  cyflogi goruchwyliaeth breifat bydd yn bresennol drwy'r amser. Maen nhw'n barod i dalu amdanyn nhw er bydd hynny'n costio'n sylweddol. Mae gen i syniad arall a syml - dylai'r heddlu patrolio mewn dillad sifil. Yna bydd yn hawdd dal y troseddwyr.

Sunday, October 27, 2013

llun yr wythnos

Mae'n hyfryd gweld ar flog A Lover of Venice y llun a dynnais! Braint fawr i mi ydy hyn gan fy mod i'n edmygu'r wefan honno'n fawr. A dweud y gwir, pan dynnais y llun hwnnw, doeddwn i ddim yn sylweddoli'r polyn arbennig; roeddwn i'n ceisio tynnu llun o'r adeilad a gafodd ei ddefnyddio fel Pensione Fiorini yn y ffilm, Summertime. Gofynnais am y polyn i Bluoscar. Fe welodd o'r blaen ond dydy o ddim yn meddwl bod yna un arall tebyg. Tynnais lun o'r unig bolyn unigryw yn Fenis ar ddamwain!

Saturday, October 26, 2013

dau farathon

Mae dau farathon enwog yn cael eu cynnal un ar ôl y llall benwythnos hwn, sef Marathon Eryri a Marathon Fenis - un ar ben y mynydd a'r llall ar lan y môr. Mae'r cyntaf wedi gorffen bellach ac mae'r llall yn cael ei gynnal yfory. Rhedodd dros 2,000 yn y cyntaf a rhedith dros 7,000 yn y llall. Dw i'n llawn edmygedd at y bobl sydd yn rhedeg cyhyd. Pob hwyl!

Friday, October 25, 2013

hetiau newydd

Does dim pres i brynu digon o fwledi ond mae'r llywodraeth eisiau i Marines gael hetiau newydd y bydd yn costio $8 miliwn. Mae'r dynion yn casáu'r hetiau "merchetaidd." Gyda llaw, talodd y llywodraeth $3 miliwn i gwmni o Canada i gynllunio gwefan Obamacare sydd ddim yn gweithio. Tybed o le mae'r holl bres yn dod?

Thursday, October 24, 2013

yr un fath ag apple?

Mae'n anodd cael gafael yn y ffigur hwn - 170 miliwn. Hwn ydy'r nifer o iPad sydd yn cael eu defnyddio yn y byd rŵan (diolch i Momo am y wybodaeth) - mwy na hanner o boblogaeth Unol Daleithiau America. Mae gan fy ngŵr un ac mae o'n ei ddefnyddio drwy'r amser. Pan ddaeth iPad allan, roedd gan y gŵr amheuaeth ar y teclyn newydd a dweud y gwir, ond mae'r ffigur yn profi i'r gwrthwyneb. A pha lywodraeth ddiffygiol sydd yn beiddio cymharu ei hun ag Apple?

Wednesday, October 23, 2013

myffin

Daeth fy merch 20 oed adref efo myffin. Prynodd hi o gan ffrind yn y brifysgol. Talodd hi $1 am y myffin bach. Wrth weld fy syndod, dwedodd hi fod ei ffrind yn ceisio codi pres er mwyn mynd ar daith genhadol fer i Haiti. A dweud y gwir mae yna nifer mawr o bobl ifanc fel hi yn America yn gwirfoddoli i helpu pobl mewn trychineb, neu mynd ar deithiau cenhadol byr. A rhaid codi pres oni bai bod ganddyn nhw ddigon o gefnogwyr personol. Gobeithio bod gan ffrind fy merch weithgareddau eraill i godi pres neu fydd hi'n gorfod gwerthu miloedd o fyffins.

Tuesday, October 22, 2013

bluoscar + momo

Yn ogystal â gwibdaith wythnosol i Fenis, mae Bluoscar yn mynd i'r mynyddoedd yng ngogledd Eidal weithiau a phostio lluniau bendigedig. Yn ei bost diweddaraf, dangosodd golygfeydd anhygoel (dipyn yn wahanol i Fenis.) Mae o'n teithio ar ben ei hun fel arfer, ond roedd ganddo gwmpeini'r tro 'ma, sef Momo, blogwr arall sydd yn postio lluniau godidog o'r mynyddoedd. A dweud y gwir, doeddwn i ddim yn gwybod am ei flog o'r blaen. Ces i gip ar ei byst eraill yn sydyn a chael fy swyno gan y lluniau anhygoel o brydferth. Mae'n ymddangos eu bod nhw'n ffrindiau da drwy eu brwdfrydedd dros y mynyddoedd. Mae'n braf gweld llun o Bluoscar, diolch i Momo.

Monday, October 21, 2013

cychod hyll

Maen nhw'n hyll yn fy marn i - y bysiau dŵr yn Fenis efo hysbyseb ar eu hochrau. Rhaid bod hynny'n fodd da i ennill incwm ychwanegol i'r cwmni ac mae yna lawer o fysiau ar strydoedd yn y byd efo pethau tebyg, ond maen nhw'n difetha golygfeydd godidog Fenis beth bynnag union fel nifer mawr o broblemau yn y dref. Roeddwn i'n meddwl bod y cwmni'n gwneud busnes da oherwydd bod y cychod yn llawn dop y rhan fwyaf o'r amser

Sunday, October 20, 2013

llwybr cyfarwydd

Dw i'n gwirioni ar y wefan hon - A Lover of Venice. Mae yna orlawn o wybodaeth am Fenis ac mae'n amlwg bod yr awdur yn caru'r dref a'i nabod hi'n drylwyr. Roeddwn i'n ei darllen a sgrifennu nodiau cyn mynd i Fenis fis Mai eleni er mwyn ymweld â rhai llefydd swynol ond anhysbys. Mae yna nifer mawr o wefannau tebyg ond yn fy nhyb i hon ydy'r orau ymysg y wefannau Saesneg. Dw i'n edrych ymlaen at Picture of the Week, yn enwedig y cwis - rhaid dyfalu lle mae'r llun yn cael ei dynnu. Mae'r llwybr yn y llun diweddaraf (Hydref 18) yn edrych yn gyfarwydd iawn. Mae'n edrych fel y llwybr roeddwn i'n cerdded arno bob dydd rhwng fy llety a'r ysgol Eidaleg. Gyrrais ebost sydyn at yr awdur a chael ateb yn syth; dw i'n iawn!

Saturday, October 19, 2013

llyfr newydd

Dw i newydd ddechrau darllen hunan cofiant gan Nicola Legrottaglie, pêl-droediwr Eidalaidd: Ho fatto una promessa (Fe wnes i addo) Des i ar draws gyfweliad ar You Tube, a dyma chwilio amdano fo. Yr hyn sydd fy nharo i ydy ei ddewrder dros ei ffydd yn Iesu Grist. Mae o bob tro'n dweud yn glir a heb ymddiheuriad sut mae Iesu Grist wedi newid ei fywyd. A dydy o ddim yn gweiddi na mynd yn emosiynol; mae o'n siarad yn syml a phlaen. Mae'r cyfryngau wrth eu bod yn gwneud hwyl am ei ben, ond dydy hynny ddim yn ei atal rhag ei dystiolaeth dros ei waredwr. Mae ei Eidaleg yn dipyn o her i mi a dweud y gwir ond dw i'n benderfynol o ddarllen ei lyfr hyd at y diwedd. Mae yna gyfieithiad yn Saesneg - I made a promise. Efallai bydd angen prynu copi arna i rywdro.

Friday, October 18, 2013

panda coch

Wedi darllen erthygl am efeilliaid Panda Coch a newydd gael eu geni mewn sw yn Japan, chwiliais am wybodaeth ar we yn sydyn. Anifail diddorol ydy Panda Coch ac mae'n annwyl iawn. Mae yna un mewn sw arall yn Japan sydd wedi achosi cymaint o stŵr flynyddoedd yn ôl. Futa ydy ei enw a ddysgodd sefyll ar ei goesau cefn am ddeg eiliad. Pan welais luniau ohono fo, roeddwn i'n meddwl mai cellwair oedden nhw gan rywun a oedd mewn gwisgoedd. Ces i fy synnu'n sylweddoli mai Panda Coch go iawn ydy o!

Thursday, October 17, 2013

fy hoff steil

Mae fy ail ferch yn setlo i lawr bellach. Rhaid bod yn braf peidio bod dan ormod o bwysau fel roedd hi yn Corea. Mae hi'n cadw'n brysur fodd bynnag wrth fwynhau'r hoe fach. Neithiwr torrodd hi fy ngwallt. Cymerodd lai na ugain munud i greu'r steil dw i'n gwirioni arno fo'n ofnadwy - stack bob. Roeddwn i'n torri fy ngwallt ar ben fy hun tra oedd hi oddi cartref. Er fy mod i braidd yn fodlon efo'r canlyniad, does dim fel cael torri'r gwallt gan broffesiynol sydd yn gwybod yn union beth dw i ei eisiau.

Wednesday, October 16, 2013

y ras olaf

Cynhaliwyd ras 5K olaf yr ysgolion ddoe. Roedd hi'n bwrw drwy'r bore ond stopiodd hi yn y prynhawn i ollyngdod pawb. Roedd gan fy mab annwyd a chael hi'n anodd anadlu'n iawn, felly doedd y canlyniad ddim yn ffafriol ond rhedeg yn galed wnaeth a gorffen y tymor yn dda. Roedd y tîm yn llwyddiannus ar y cyfan a chipiodd y lle cyntaf. Na fydd ras mwyach ond bydd y tîm yn dal i ymarfer nes diwedd y flwyddyn. Yna, bydd y tymor pêl-droed yn cychwyn ddechrau'r flwyddyn nesaf!

Tuesday, October 15, 2013

edrych yn gyfarwydd

Mae fy ail ferch wrthi'n postio ar Face Book ei lluniau a dynnodd yn Japan. Ces i fy synnu'n gweld rhai ohonyn nhw; aeth i Kawagoe, tref gyrion Tokyo lle cedwir awyrgylch hynafol sydd yn tynnu nifer o ymwelwyr. Fel Fenis, mae yna siopau ar hyd y garreg balmant, tŵr cloch (pren yn yr achos hwn) a chromen werdd sydd fy atgoffa i o fy hoff eglwys, sef San Simeone Piccolo. (Gweler i'r dde.)

Monday, October 14, 2013

fideo ymarfer corf

Dw i newydd ddod o hyd i fideo da yn Japaneg ar gyfer ymarfer corf. A dweud y gwir, doeddwn i erioed wedi chwilio am rai o'r blaen nes gweld erthygl mewn papur newydd Japaneaidd. Mae yna nifer mawr tebyg ond dw i'n hoffi hwn. Mae o'n ddigon byr a hawdd gwneud bob dydd. Dw i'n teimlo'n braf ar ôl ei wneud o. Dydy o ddim yn ffasiynol. Efallai mai i'r henoed ydy o, ond dim ots. Mae fy merch yn ei hoffi o hefyd, felly dan ni'n ymarfer ein cyrff ni efo'i gilydd o flaen y cyfrifiadur. Yr unig broblem - dydy'r llun ddim yn cyd-fynd efo'r awdio weithiau.

Sunday, October 13, 2013

penblwydd arbennig

Dathlodd mam un o'n ffrindiau ni ei phenblwydd. Mae hi newydd droi'n gant oed! Roedd yna lawer o bobl yn ffreutur y cartref henoed yn dweud "penblwydd hapus" wrth y ddynes annwyl. Roedd hi'n edrych dipyn yn flinedig ond yn hapus. Roedd arddangosfa hen luniau a'i dillad plentyndod. Mae hi'n cadw ei ffrog priodas hyd yn oed - ddim ffrog wen ond un syml ac ysgafn wrth ei lun priodas. Cwpl golygus oedden nhw.

Saturday, October 12, 2013

alberto a'r almaeneg

Mae Alberto'n dysgu Almaeneg ers mis a newydd ymddangos ei hun yn ei siarad hi ar You Tube. Fedra i ddim yn barnu pa mor dda mae o, ond mae'n amlwg ei fod o'n medru siarad yr iaith honna am funudau o leiaf. Mae o'n dysgu Saesneg, Ffrangeg, Sbaeneg a Romaeneg yn llwyddiannus ar un pryd. Dw i'n dal i ddilyn ei gyngor a gwrando ar ei awdio pryd bynnag dw i'n cael cyfle drwy'r dydd - wrth i mi wneud y gwaith tŷ a gyrru o gwmpas y dref. Gobeithio y bydda i'n medru gwella fy Eidaleg nes i mi fedru cyfathrebu'n ddigon rhydd cyn hir.

Friday, October 11, 2013

mae hi adref

Mae fy ail ferch newydd ddod adref wedi dysgu Saesneg yn Corea a Japan am flwyddyn a hanner. Mae'n wir hyfryd ei gweld hi eto. Cawson ni a'r gweddill o'r teulu (sydd yn dal i fyw gartref) amser braf neithiwr. Mae ei hen swydd yn aros amdani hi a bydd hi'n dechrau gweithio'n rhan amser fel merch trin gwallt yr wythnos nesaf. Fydd hi ddim yn aros efo ni'n hir serch hynny; mae hi eisiau dysgu Saesneg tramor eto, rhywle yn Ewrop efallai. Mae hi efo ni am y tro a bydd pawb wrth fwrdd cinio Gŵyl Ddiolchgarwch a'r Nadolig eleni.

Thursday, October 10, 2013

ailgylchu gwydr

Dydy'r system ailgylchu ddim yn effeithiol yn y dref yma. Os dach chi eisiau ailgylchu papur, tuniau a phlastig 1&2, dach chi'n gorfod eu cludo nhw ar eich pen eich hun i'r lle penodol. Mae'r rhan fwyaf o'r trigolion yn taflu popeth yn y biniau heb feddwl. Mae ailgylchu gwydr yn waeth. Roedd yna le allan o'r dref a oedd yn derbyn gwydr hyd yn ddiweddar, ond roedden nhw newydd atal y gwasanaeth oherwydd perygl i'r gweithwyr. Dwedodd y pennaeth fod rhai pobl yn gadael gwydr wedi'i dorri. Rŵan does dim modd i ailgylchu gwydr o gwbl. Yr unig ddewis i mi am y tro ydy pan awn ni i dŷ fy merch hynaf yn Norman, awn ni â'r gwydr efo ni. Mae gan y dref honno system glodwiw. Dw i newydd sgrifennu at Faer y dref yma. Gobeithio y bydd o'n gweithredu.

Wednesday, October 9, 2013

llun heb ddisgrifiad

Mae Bluoscar yn postio'n aml lluniau heb ddweud lle tynnodd o nhw neu ddisgrifiad ohonyn nhw. Maen nhw'n llawn o awyrgylch hyfryd a does dim angen gair er mwyn eu gwerthfawrogi nhw. Dw i eisiau gwybod, fodd bynnag, lle maen nhw. Weithiau maen nhw'n amlwg ond dydyn nhw ddim y tro arall. Weithiau mae o'n ychwanegu map fel y post diweddaraf hwn. Ceisiais i ddyfalu lle oedd y man cyn gweld y map serch hynny. Roedd yn edrych fel rhywle yn Cannaregio (yr ardal ogleddol,) ond doeddwn i ddim yn hollol sicr. Wedi gweld yr ateb (map) roeddwn i'n sylweddoli'r basgerfiad bach ar yr adeilad ar y dde. Mi ddylwn i fod wedi ei adnabod y lle. Cerddais yno sawl tro.

Tuesday, October 8, 2013

pwdu

Mae'n wythnos ers i Lywodraeth America atal ei swyddogaeth yn sgil yr anghytundeb diweddaraf. Mae popeth yn gweithio'n braf fel arfer hyd yma tra mae'r llywodraeth yn ceisio'n galed i osod "maen tramgwydd" ar ffordd y bobl gyffredin:

1. Cynigodd Talaith Arizona i'r Llywodraeth fydden nhw'n rhedeg Parc Cenedlaethol Grand Canyon a thalu am bopeth. Gwrthododd y Llywodraeth a mynnu dalai'r parc ddal ar gau.
2. Caeodd y Llywodraeth gwefannau cenedlaethol er costiodd mwy i'w cau na gadael iddyn nhw weithio.
3. Adeiladodd y Llywodraeth ffens newydd o gwmpas man golygfaol ar dir cenedlaethol yn Wyoming i atal y bobl rhag gweld yr olygfa odidog.

Dim ond blaen y mynydd rhew ydy'r rhain. Yn fy marn i (a barnau llawer o bobl eraill) mae'r Llywodraeth yn pwdu ac eisiau dangos i'r bobl bod hi'n anhapus oherwydd nad oedd hi'n medru cael beth mae hi ei heisiau.

Mae cwrs golff ar gyfer Arlywydd America ar agor.

Monday, October 7, 2013

artist llawn amser

Mae'n anodd  ennill bywoliaeth fel artist ar wahân i rai sydd gan ddawn eithriadol. Roedd fy merch hynaf swydd mewn swyddfa tra oedd hi'n gwneud y gwaith creadigol ers blynyddoedd. Yn ddiweddar penderfynodd hi adael ei swydd a gweithio fel artist llawn amser. A dweud y gwir, heddiw ydy ei diwrnod cyntaf yn ei gyrfa newydd. Roedd hi arfer bod dan bwysau oherwydd prinder amser a oedd yn effeithio ar berfformiadau creadigol. Rŵan mae ganddi hi ddigon o amser i baentio a gwneud pethau eraill creadigol. Mae hi'n swnio'n siriol a llawn o egni. (Yn sydyn mae ganddi hi ddigon o gleientiaid!)

Sunday, October 6, 2013

ras fwdlyd

Rhedodd fy mab ifancaf ras oddi cartref yn Arkansas ddoe. Roedd yn ddiwrnod gwlyb iawn.   Aeth y teulu efo fo i weld y ras. Doeddwn i ddim yn mynd oherwydd fy nyletswydd yn y dref. Pan oeddwn i'n gyrru, dechreuodd hi'n bwrw'n ofnadwy o drwm fel nad oeddwn i'n medru gweld y ffordd yn iawn hyd yn oed. Symudodd y cymylau glaw i'r Dwyrain a gostwng bwcedaid o law ar ôl y llall ar y cwrs rhedeg. Roedd o'n hollol fwdlyd ac yn naturiol, roedd y rhedwyr i gyd yn fwdlyd. Roedd y rhai yn gorchuddio efo mwd o'r goron i'r sawdl. Mae'n ymddangos bod y rhedwyr yn cael hwyl er gwaetha'r mwd, yn hytrach, oherwydd y mwd! 

Saturday, October 5, 2013

campwaith canaletto

Dw i'n hoff iawn o Canaletto, un o'r artistiaid enwocaf o Fenis. Yn ogystal â'r adeiladau, mae'r awyr a baentiwyd ganddo yn odidog. Bydd yna gyfle i weld ei gampwaith ym mis Tachwedd yn yr union le paentiodd y meistr yr olygfa honno ynddo, sef Abbazia di San Gregorio. Bydd o'n dod yn ôl i Fenis am y tro cyntaf ers 270 mlynedd ac aros yno am bythefnos. Bydd y fraint yn costio'n ddrud fodd bynnag - €35 yr un mewn grŵp o wyth yn ystod y dydd; €400 os dach chi eisiau ei weld o ar eich pen eich hun am awr yn y nos.

Friday, October 4, 2013

sgrifennu dyddiadur

Dw i'n mwynhau sgrifennu'r blog 'ma yn Gymraeg a gychwynnais flynyddoedd yn ôl. Modd da i ymarfer fy Nghymraeg ydy hwn. Mae'n fy ysgogi i adolygu'r gramadeg a sillafu a mwy. Mae'n braf gweld yr hyn dw i'n ei sgrifennu cael ei argraffu hefyd. Dechreuais sgrifennu blog yn Eidaleg ond mae'n anodd am ryw reswm neu'i gilydd. Dylwn i sgrifennu rhywbeth fodd bynnag i ymarfer fy Eidaleg. Felly penderfynais sgrifennu dyddiadur hen ffasiwn wythnos yn ôl ar nodiadur deniadol a ges i'n anrheg. Dw i'n ceisio llenwi un dudalen bob nos efo pethau sydd yn dod i fy meddwl. Mae hyn yn gweithio ac yn hwyl! 

Thursday, October 3, 2013

polyn angori personol

Tynnais gannoedd o luniau yn Fenis a dw i'n mwynhau eu defnyddio nhw ar sgrin y cyfrifiadur. Wrth weld y llun hwn wedi'i ehangu ar y sgrin, dw i newydd sylweddoli peth del yn ymyl y llun - polyn angori personol i gondola. Rhaid ei fod o'n perthyn i'r gondolier yma. Syniad da! 

Wednesday, October 2, 2013

eyetalian lunch

Cynhaliwyd cinio yn ysgol optometreg y brifysgol leol heddiw er mwyn codi arian i grŵp o'r myfyrwyr fynd i Honduras flwyddyn nesaf. Maen nhw'n ymweld â Honduras i gynnig gwasanaeth optometreg yn rhad ac am ddim ers blwyddyn. Y tro diwethaf derfynodd mil o drigolion driniaethau angenrheidiol. Wedi dangos lluniau ar y sgrin, adroddodd rhai o'r grŵp eu profiadau a dweud pa mor hyfryd oedden nhw; maen nhw'n awyddus i ddychwelyd at y bobl annwyl. Roedd y cinio'n flasus iawn - bwyd Eidalaidd. Galwon nhw'n "Eyetalian Lunch." Roedd yna lawer o bobl a diflannodd y bwyd yn gyflym iawn.

Tuesday, October 1, 2013

1 hydref

Mae'n anodd credu bod hi'n fis Hydref yn barod. Roeddwn i'n meddwl bod yr ysgol newydd ddechrau wythnosau'n ôl. Sgrifennodd fy merch ddoe at ei nain yn ei llythyr fyddai hi'n Nadolig yn fuan! Efallai bod hi'n iawn. Mae'r amser yn hedfan.

Fe wnaeth y Gweriniaethwyr cyfaddawdu. Rŵan, tro'r Arlywydd a'r Democratiaid i wneud yr un peth er mwyn pasio'r gyllideb genedlaethol. 

Monday, September 30, 2013

drama radio

Pan oeddwn i'n astudio'r Saesneg flynyddoedd yn ôl yn Tokyo (cyn amser cyfrifiaduron,) roeddwn i'n arfer gwrando ar Radio FEN, sef Far East Network a oedd yn darparu gwasanaeth i Luoedd Arfog America yn y Dwyrain Pell. Roedd o'n ffynhonnell hyfryd i ddysgwyr y Saesneg, a ches i fantais arno fo i'r eithaf. Yn ogystal â'r newyddion, roedd yna amrywiaeth o ddramâu radio. Fy ffefryn oedd Life of Riely, cyfres boblogaeth iawn yn y 40au. Recordiais y rhaglen yn fy recordydd tâp (cyn amser Walkman) a gwrando arni hi ar y trên bob dydd. Mae hi ar gael ar y we. Mae lleisiau annwyl y cymeriadau'n fy atgoffa i o'r dyddiau cynt. Cafodd hi ei throi'n rhaglen deledu hefyd ond dw i'n meddwl bod y fersiwn radio'n llawer mwy doniol.

Saturday, September 28, 2013

glaw sydyn

Cawson ni law wedi dyddiau o dywydd sych. Dechreuodd fwrw glaw'n sydyn iawn tra oeddwn i yn y dref. Clywais y glaw ar do'r archfarchnad. Ces i fy ngwlychu'n llwyr rhwng drws y siop a fy nghar yn y maes parcio. Na chafodd y bwydydd eu gwlychu, diolch i wasanaeth y siop. Maen nhw'n cludo'ch bwydydd at eich ceir; dim ond gyrru nhw wrth y siop sydd angen. Roedd gen i gur pen drwg ddoe oherwydd y sychder, ond dw i'n teimlo'n llawer gwell rŵan, diolch i'r glaw.

Friday, September 27, 2013

hen lyfr

Prynais lyfr ail-law gan Amazon; dim ond $4 oedd o gan gynnwys y tâl post. Pan gyrhaeddodd, gwelais fod o'n dros hanner cant oed. Y broblem ydy bod ganddo arogl llwyd sydd yn gwneud i mi besychu wrth ei ddarllen. Doeddwn i ddim eisiau ei daflu o gan fy mod i eisiau ei ddarllen (casgliad o storiâu byr Eidalaidd yn Saesneg a ysgrifennwyd rhwng  1313 a 1909.) Dyma chwilio am wybodaeth ar y we ynglŷn â sut i gael gwared ar yr arogl. Mae'r llyfr yn torheulo ar y dec ers dyddiau wedi'i daenu gan soda pobi. Mae o'n treulio bob nos mewn bag plastig a llenwid gan hen bapurau newydd. Mae'r arogl wedi lleihau'n sylweddol, ond mae o'n dal i angen y driniaeth.

Thursday, September 26, 2013

glanhawr cyfrinachol

Dw i newydd glywed bod dyn lleol yn Fenis, wedi'i gyfarparu efo pinsiwrn, yn casglu'r cloeon clap ar Bont Accademia yng nghanol nos a'u gwerthu nhw i ffowndri ers dau fis. Mae o'n gwneud hynny er mwyn codi arian i sefydlu canolfan i'r di-waith a'r digartref yn y dref. Mae o eisoes wedi casglu 7 tunnell o fetel (€2.50 am gilogram o bres, € 3 am gilogram o haearn.) Syniad da yn fy nhyb i, ond dydy swyddogion y dref ddim yn hapus oherwydd ei fod o heb ganiatâd swyddogol.

Wednesday, September 25, 2013

dan y bont

Fel sgrifennais o'r blaen, mae yna filoedd o gloeon clap wedi'u clymu yn rheiliau Pont Accademia yn Fenis. Mae rhai'n gorwedd yn rhydd ar y llawr hyd yn oed. Syrthiodd un ohonyn nhw ar wyneb gondolier a oedd yn digwydd hwylio dan y bont ddyddiau'n ôl. Yn ffodus cafodd o ddim ei anafu, ond gallai hynny wedi bod yn ddifrifol. Mae pobl yn dal i glymu'r peth yn y rheiliau er byddan nhw'n cael eu taflu i ffwrdd yn y pen draw. Clywais fod rhai mewnfudwyr yn gwerthu cloeon clap i gyplau ar y bont. 

Tuesday, September 24, 2013

llestr pridd efo caead

Santa Maria Maddalena - un o fy hoff eglwysi yn Fenis ydy hi. Mae hi'n fy atgoffa i o lestr pridd efo caead. Pasiais yr eglwys fach hon sawl tro gan ei bod hi'n sefyll agos at y ffordd sydd yn cysylltu'r orsaf trên a'r ardaloedd dwyreiniol. Tannwyd y llun hyfryd hwn gan BluOscar ar doriad gwawr. Mae o'n cerdded o gwmpas y dref ar ddydd Sadwrn cyn i'r twristiaid lenwi'r llwybrau.

Monday, September 23, 2013

crock pot

Dw i ddim yn rhy hoff o goginio ac mae'n anodd penderfynu beth ddylwn i baratoi i swper. Mae'n anos fyth yn ystod yr haf gan fy mod i ddim yn gwneud casseroles yn y popty er mwyn peidio codi tymheredd y gegin. (Mae gen i ryseitiau amrywiol am hynny.) Ces i Crock Pot yn anrheg am Nadolig; dydy o ddim yn gwresogi'r ystafell yn gymharol ond dw i heb ei ddefnyddio'n aml am ryw reswm neu beidio hyd yma. Heddiw dw i'n mynd i baratoi casserole tatws a selsig ynddo fo. Bydd yn cymryd pum awr i orffen; dechreua' i mewn hanner awr cyn mynd i swyddfa'r gŵr.

Sunday, September 22, 2013

cyrraedd fenis

Mae ffrind i mi newydd gyrraedd Fenis efo ei chyfnitherod. (Genfigennus iawn dw i!)  Dwedodd ei gŵr eu bod nhw'n cael amser hyfryd yn Ewrop. Rhufain ydy eu cyrchfan nesa ac olaf. Dw i'n edrych ymlaen at glywed am ei hanes pan ddaw hi adref.

Saturday, September 21, 2013

diwrnod brafiaf

Cawson ni wythnosau poeth a sych dilynwyd gan ddiwrnod neu ddau o law. Heddiw mae'n braf efo awel ysgafn glaear am y tro cyntaf ers misoedd. Mae'r awyr yn las las heb gymylau. Redodd y mab ifancaf ras arall ger Tulsa y bore 'ma yn y tywydd mor braf. Aeth y teulu efo fo tra oeddwn i'n siopa a gwneud neges yn lleol. Mae gen i dipyn o amser i fi fy hun cyn crasu pastai pwmpen i'r gŵr (ei ffefryn ydy hi.) Dan ni'n mynd i fwyta allan heno i ddathlu ei benblwydd, tŷ bwyta Mecsicanaidd dw i'n meddwl.

Friday, September 20, 2013

aderyn cân

Mae hi'n cael ei galw'n aderyn cân. Yukari Miyake ydy ei henw hi. Peth annisgwyl amdani hi ydy'r ffaith bod hi'n aelod o Luoedd Amddiffyn Morwrol Japan. Mae un o'i chaneuon, sef a Prayer ar ben y siart ers tair wythnos. Yn y clip yma, mae hi'n canu Time to Say Good-bye, cân Eidalaidd enwog, yn Eidaleg. Mae hi'n trilio "r" yn fedrus iawn!

Thursday, September 19, 2013

lleuad fedi

Mae hi'n cael ei galw'n "lleuad hardd yng nghanol yr hydref" yn Japaneg ac mae'r bobl yn mynd allan i'w mwynhau bob blwyddyn. Mae hi'n noson glir rŵan yn Japan; des o hyd i gynifer o luniau ohoni hi ar y we. Tynnwyd y llun hwn oriau'n ôl yn Kobe lle roeddwn i'n byw am flynyddoedd.

Wednesday, September 18, 2013

bath troed

Dw i'n mwynhau "bath troed" beunyddiol dyddiau hyn (heb gegolch glas!) Mae gen i "ryseitiau" amrywiol - halen, croen lemon, finegr, soda pobi, olew persawrus, ayyb. Ar ôl dod adref yn y prynhawn, tua 4:30 o'r gloch, bydda i'n llenwi twb bach efo dŵr claear (gan ei bod hi'n dal i boeth) a chymysgu rhai "cynhwysion" o fy newis a mwydo fy nhraed yn ddiolchgar am ryw chwarter awr wrth ddarllen llyfr. Braf iawn!

Tuesday, September 17, 2013

modd i ddysgu

Un o'r argymhelliad mae Alberto yn ei roi o ran dysgu unrhyw iaith arall ydy cyfuno eich diddordebau efo'r dysgu; hynny ydy darllen am eich diddordebau yn yr iaith/ieithoedd o'ch dewis. Yna, cewch chi ddysgu ieithoedd a hel gwybodaeth ar yr un pryd. Dim ots os oes llawer o eiriau newydd achos byddwch chi'n awyddus i'w dysgu nhw er mwyn gwybod beth mae'r llyfr neu'r erthygl yn ei ddweud. Cytuno'n llwyr. Wrth gwrs rhaid dysgu pethau sylfaenol gyntaf, ond ar ôl cyrraedd y lefel canolradd, does dim modd gwell na hynny. 

Monday, September 16, 2013

ffrindiau am oes

Yn gysylltiedig â Diwrnod i'r Henoed yn Japan, mae yna erthygl am ddwy wraig sydd yn 100 a 99 oed. Mae un o'r ddwy'n byw yn yr un lle ers ei geni. Pan symudodd y llall yno, aethon nhw'n ffrindiau'n syth. Trwy'r rhyfel, enedigaeth eu plant a mwy, maen nhw'n cadw'r cyfeillgarwch hyd at heddiw a dal i fwynhau cwmni ei gilydd.

Sunday, September 15, 2013

prynhawn sul

Sut dach chi'n treulio prynhawn dydd Sul - ymlacio, mynd allan efo ffrindiau, gweithio, gwneud gwaith cartref ayyb? Gwaith tŷ (a dysgu Eidaleg) i mi fel arfer, ond heddiw rhaid gweithio i'r gŵr wrth iddo marcio papurau ymchwilio'r myfyrwyr. Mae'n eithaf diflas ond bydd  o'n gorfod gweithio drwy'r nos oni bai fy mod i'n ei helpu. Bydda i'n cael fy nhalu wrth gwrs, felly fedra i ddim cwyno. 

Saturday, September 14, 2013

ateb

Hwrê! Sgrifennais sylw ar flog Alberto, a chael ateb. (A dweud y gwir, mae o'n ateb pob sylw!) Roeddwn i eisiau diolch iddo am ei wasanaeth gwerthfawr i'r rhai sydd yn dysgu Eidaleg, a dweud wrtho fo fy mod i'n edmygu ei egwyddor a'r hyn mae o wedi ei gyflawni. Mae o newydd ddechrau mynd i'r brifysgol a sefyll arholiad, ac wedyn fe wnaeth uwchlwytho post newydd. Dw i'n gwybod rŵan sut dach chi'n ei ddweud, "ces i dorri fy ngwallt" yn Eidaleg, diolch i Alberto.

Friday, September 13, 2013

mwy am alberto

Dw i'n dal i wylio'r fideo a darllen blog Alberto. Hogyn anhygoel a phrin ydy o. Mae ganddo egwyddor gadarn ac mae o'n ymdrech i wella ei fywyd a helpu'r bobl eraill drwy'r dydd heb frolio ei gamp. Does dim llawer o bobl ifanc, yn hytrach, pobl yn gyffredinol fel Alberto. Dw i'n llawn edmygedd a medru dysgu mwy na'r Eidaleg drwy ei wersi.

Thursday, September 12, 2013

diolch i alberto

Des ar draws clip gan Alberto o Brescia ar You Tube. Creodd gyfres o glipiau a dal i greu ynghyd gwefan er mwyn helpu dysgwyr Eidaleg drwy roi cyfleoedd iddyn nhw wrando ar Eidaleg naturiol a siaradir yn gymharol araf. Mae o'n rhoi cynghorion, yn Eidaleg, ar sut i ddysgu ei famiaith hefyd. Hyn ydy peth perffaith i mi ac i lawer o ddysgwyr eraill dw i'n siŵr gan ei bod hi'n anodd dod hyd i ddeunydd sydd ddim yn rhy anodd na rhy syml. Wrth gwrs bod yna gynifer o bobl yn siarad am eu diddordebau ar You Tube, ond yr hyn sydd yn fy nharo ydy pa mor ymroddedig ydy o i helpu dysgwyr, yn rhad ac yn ddim hefyd. Mae o hyd yn oed yn siarad am ddatblygu eich potensial a gwella'ch bywydau, yn Eidaleg. Pam mae hyn fy synnu? Oherwydd mai ond 18 oed ydy'r hogyn hwn! Dysgu ieithoedd eraill hefyd mae o, ac felly mae o'n medru rhoi cynghorion o safbwynt dysgwr. Dw i ddim yn gwybod sut mae o'n gwneud popeth a mynd i'r ysgol ar un pryd. Diolch, fodd bynnag, i Alberto!
You Tube
y wefan

Wednesday, September 11, 2013

12 mlynedd

Mae hi'n 12 mlynedd ers y diwrnod erchyll yn Efrog Newydd. Wrth weld y lluniau, dw i'n sylweddoli o newydd pa mor ysgeler oedd y trosedd. Mae'r teuluoedd y mae eu hanwyliaid wedi cael eu lladd yn dal i ddioddef o'u colled. Ddylen ni ddim anghofio. Dylen ni ddal yn wyliadwrus. Mae dihirod yn aros am gyfleoedd eraill.

Tuesday, September 10, 2013

tablau lluosi

Mae gan bob plentyn amser caled wrth geisio cofio'r tablau lluosi. Gan fod fy mhlant wedi mynd i'r ysgol yn America, maen nhw wedi eu dysgu efo'r modd Americanaidd sydd mwy neu lai'n debyg i'r gwledydd gorllewinol. Dw i ddim yn gwybod am y gwledydd eraill dwyreiniol, ond yn Japan mae yna fodd llawer haws er bod chi'n ymdrechu wrth gwrs. Mae fel tasech chi'n canu cân wrth ddweud y tablau. Mae'n anodd eu hanghofio wedyn. Penderfynais sgrifennu'r pwt hwn wedi gweld You Tube sydd yn dysgu'r tablau lluosi drwy ddefnyddio'r bysedd.

Monday, September 9, 2013

paid edrych rŵan

Des ar draws nofel fer sydd yn seiliedig yn Fenis gan Daphne du Maurier, awdures Rebecca. Don't Look Now ydy'r teitl. Mae'n amlwg bod Maurier yn nabod Fenis yn dda. Disgrifiodd y dref fel un sydd yn gyfarwydd â'r llwybrau cymhleth. Aeth y prif gymeriad at yr Heddlu ger Eglwys Lorenzo lle mae gan Brunetti swyddfa ynddo fo hyd yn oed. Roeddwn i'n gwerthfawrogi'r elfen honno. OND -  mae'n stori ofnadwy o ddychrynllyd! Byddwn i byth yn dilyn hogan fach ar lwybrau cyrion Fenis gyda'r hwyr!

Sunday, September 8, 2013

gwydr o murano

Ces i gyfle i ddefnyddio'r anrheg o Fenis a dderbyniais gan yr ysgol Eidaleg. Es i dŷ bwyta Tseiniaidd a dyma hongian fy mag llaw gan y bachyn efo gwydr hardd o Murano. (Dydw i ddim yn bwyta allan yn aml!) Mae'n bleser i mi weld y peth bach arbennig sydd yn fy atgoffa i o Fenis. 

Saturday, September 7, 2013

amlieithydd

Mae yna rai sydd yn medru siarad nifer o ieithoedd. Wrth gwrs bod nhw'n gyffredin yng ngwledydd bach yn Ewrop ond wedi fy ngeni a fy magu yn Japan ac yn byw yn America lle mae'r rhan fwyaf o'r bobl yn uniaith, dw i bob amser yn cael fy synnu'n gweld amlieithydd. Mae'r hogyn ifanc hwn yn Efrog Newydd yn medru dros 20 o ieithoedd gan gynnwys rhai lleiafrif yn Affrica. Dydy o ddim yn rhugl (eto) yn Japaneg, ond mae o'n swnio'n anhygoel o dda, peth prin ymysg Americanwyr. Gobeithio bydd yn dal ati a dechrau dysgu Cymraeg ryw dro.

Friday, September 6, 2013

cywilydd

Sbwriel a daflir ym mhob man ydy un o'r problemau niferus yn Fenis fel nifer mawr o ddinasoedd eraill (ar wahân i Japan sydd yn anhygoel o lan.) Pan oeddwn i yno, ces i dorri fy nghalon wrth weld cymaint o sbwriel yn llenwi un o'r llefydd harddaf yn y byd. Yn ddiweddar aeth rhai gwirfoddolwyr i fan ofnadwy o fudur i gasglu sbwriel (yn ôl y math hyd yn oed) a llenwi dros ddwsin o fagiau du. "Cywilydd" ydy gair mae'r genhedlaeth bresennol wedi anghofio.

Thursday, September 5, 2013

angrheg i'r tywysog bach

Mae cwmni teuluol yn Japan wrth ei fodd i dderbyn llythyr o ddiolch gan y Frenhines Elizabeth. Anfonodd y cwmni dillad isaf i fabanod bedwar crys o gotwm organig yn anrheg at y tywysog newydd-anedig. Cafodd y llythyr yn annisgwyl ac mae'r arlywydd a'r 25 gweithwyr yn hapus dros ben. 

Wednesday, September 4, 2013

fy hoff flog

Mae'n braf bod Oscar wedi ailgychwyn ei flog. Yn aml iawn mae o'n tynnu sylw eu darllenwyr at lefydd a phethau anhysbys ond diddorol a hardd nad ydy'r trigolion hyd yn oed yn ymwybodol ohonyn nhw. Mae'r post heddiw er enghraifft yn dangos gwaith carreg cymhleth a hynod o gain ar adeilad mewn lle prysur. Doeddwn i ddim wedi ei sylwi ond does dim rhaid i mi deimlo'n ddrwg oherwydd bod dynes a oedd yn byw yn Fenis am 27 mlynedd erioed wedi ei sylwi chwaith.

Tuesday, September 3, 2013

mae oscar yn ôl

Mae BluOscar yn cerdded ar lwybrau cyrion Fenis am oriau a thynnu lluniau anhygoel o dda o bob congl boed enwog neu anhysbys. Dw i'n mwynhau ei flog yn fawr iawn ac wedi ymweld â nifer o lefydd a sgrifennodd amdanyn nhw tra oeddwn i yn Fenis. Roedd o ar wyliau'r mis Awst cyfan, ac mae o newydd ddod yn ôl wrth bostio llun hyfryd eto. Rhaid cyfaddef fy mod i wedi colli ei flog beunyddiol am fis. Es at ei flog bob dydd rhag ofn er fy mod i'n gwybod yn iawn ei fod o i ffwrdd. Dw i'n edrych ymlaen at flwyddyn arall o wibdeithiau yn fy hoff dref.

Monday, September 2, 2013

diwrnod i ffwrdd

Mae'r teulu'n cael hwyl wrth lyn hanner awr i ffwrdd ers bore ddoe. Mae'n heglwys ni'n mynd ar siwrnai fach dros benwythnos Labor Day bob blwyddyn ac mae'r teulu'n ymuno â nhw bob tro. Dw i ddim yn rhy hoff o wersylla, felly dw i adref ar ben fy hun. Hoe fach i mi ydy hyn. Mae'n braf yn ystod y dydd ond y broblem ydy mod i'n methu cysgu'n dda yn y nos heb neb arall yn y tŷ. (Does gen i broblem byth mewn llety.) Roeddwn i'n gwylio Pane e Tulipani tan 2 o'r gloch y bore 'ma felly. Deffrais am 7 fodd bynnag. 

Sunday, September 1, 2013

simeon piccolo mewn perygl

Fy hoff eglwys yn Fenis ydy San Simeon Piccolo sydd o flaen yr orsaf trên. Mae San Simeon ar ben y tŵr yn eich cyfarch pan dach chi'n camu allan yr orsaf. (Gweler y llun ar y dde.) Dydy hi ddim yn fach er gwaetha'r enw ac mae ei tho mawr yn fy atgoffa i o helmed heddlu Prydain. Dw i'n teimlo'n agos ati hi oherwydd bod fy llety dafliad carreg i ffwrdd; pasiais o'i blaen hi sawl tro bob dydd. 

Felly ces i sioc i glywed y newyddion heddiw - mae crwydriaid wedi bod yn defnyddio'r pronaos fel eu llety a hyd yn oed eu toiled (!) yn ystod y nos. (Doeddwn i ddim yn gwybod.) Wedi cael digon, gosododd y swyddog ffens metel o gwmpas y pronaos yn ystod y nos. Doedd y crwydriad ddim yn hapus efo'r penderfyniad; dinistrion nhw'r ffens, yna taflon nhw'r sbwriel a oedd yn y biniau cyfagos. Gobeithio y cân nhw eu dal a'u cosbi'n llym; dylen nhw gael eu gorfodi i lanhau'r dref i gyd.

Saturday, August 31, 2013

tri phenblwydd

Mae wythnos benblwydd wedi cyrraedd. Mae gan dri o fy mhlant eu penblwyddi ar y 6ed, 7fed ag 8fed mis Medi, ond fe wnaethon ni eu dathlu nhw heddiw wrth i fy mab hynaf ddod adref dros benwythnos Labor Day.  Eleni crasais cup cakes yn lle cacennau mawr yn ôl awgrym fy merched. Agoron nhw ran o'u hanrhegion yn barod ac maen nhw'n chwarae efo'i gilydd rŵan. Dan ni'n mynd i dŷ bwyta nes ymlaen, bwyd Tsieineaidd efallai.