Monday, March 30, 2009

penwythnos


Daeth fy merch hyna a'i gwr a fy mab hyna dros y penwythnos. Gweles i fy merch a'i gwr am y tro cynta ers y Nadolig. Maen nhw'n mynd i Japan yr wythnos ma am bythefnos. Dw i'n siwr y byddan nhw'n cael amser gwych. Mae hi wedi bod yn oer yn annisgwyl yn Japan y dyddiau hyn fel y blodau ceirios heb flodeuo eto. Ceith y cwpl ifanc fwynhau'r blodau byd enwog tra byddan nhw yno.

Caethnon ni ginio mewn ty bwyta Tseineaidd ddoe.

Thursday, March 26, 2009

cenllysg

Wrth i mi yrru i'r ysgol i gasglu'r plant, dechreuodd hi fwrw cenllysg yn sydyn iawn. Roedd o'n taro to'r fan mor galed fel y roeddwn i'n ofni y câi fo ei ddifrod. Roedd y cymylau'n dywyll ond bod yr haul yn disgleirio. Falch o gyrraedd adref yn ddianaf.

Wednesday, March 25, 2009

pride and prejudice eto


Dechreues i a'r teulu wylio'r gyfres o 'Pride and Prejudice' gan BBC unwaith eto. Dan ni wedi bod yn gwylio un episod bob nos, ac dim ond un sydd ar ôl erbyn hyn. Mae pawb gan gynnwys fy mab naw oed yn mwynhau'r clasur hwn. Un peth sy'n fy nharo i bob tro ydy'r geirfa. Maen nhw'n defnyddio geiriau mor soffistigedig pan yn ddig hyd yn oed. Wel, edrycha i ymlaen at wylio'r episod olaf heno!


Friday, March 20, 2009

dawnsio llinell


Dw i'n hoff iawn ohono fo. Roeddwn i'n arfer mynd i sesiwn pan oeddwn i'n byw yn Indiana (yn y sgubor yn Elletsville. Ydy o'n dal yna? Wyt ti'n gwybod Zoe?) Yn anffodus does yna ddim unrhyw sesiwn yma. Dw i ddim yn deall pam. Mae o mor hwyl. Sgwn i ydy o allan o ffasiwn bellach?

Ond dw i benderfynol o wneud o eto. Prynes i DVD ac mae o newydd gyrraedd. "Essential Line Dances, volume 2" - Mae'r cyfarwyddiadau'n glir a hawdd. Ceisia i wneud hwn o dipyn i beth.  

Thursday, March 19, 2009

da iawn



Prynes i rawnfwyd newydd (wel newydd i ni) i'r plant ddoe. Caethon nhw hwyl wrth fwyta eu brecwast y bore ma. Wrth i mi fynd heibio'r bwrdd cegin, dyma gael syniad i fy mlog. Roedd yn anodd dod o hyd i "n" !

Tuesday, March 17, 2009

siarad

Dach chi wedi clywed am y prosiect diweddara gan Brifysgol Bangor? 'Siarad' - 40 awr o sgyrsiau siaradwyr Cymraeg wedi'u trawsgrifio'n llawn a'u recordio! 

Roedd gen i bloblem ar y dechrau ond diolch i Peredur, yr ymchwilydd a wnaeth roi cymorth helaeth imi, mae popeth yn gweithio. Mae hwn yn wych! Bydd o'n help mawr i'r oedolion yn ogystal â'r plant sy'n dysgu Cymraeg fel ail iaith.

Cerwch i 'Talkbank' a lawrlwytho'r ffeiliau yma (Siarad.zip) sy'n cynnwys ffeiliau sain. Rhaid defnyddio CLAN i'w hagor nhw. 

Sunday, March 15, 2009

huw chiswell

Er bod Elwyn Hughes yn ei ganmol cymaint yn ei lyfr, doeddwn i ddim yn gwybod sut i ynganu ei gyfenw hyd yn oed nes clywed rhaglen Dewi Llwyd heno. A chlywes i ei gân fuddugol yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 1984, sef 'y Cwm' hefyd. Mae hwn yn eithriadol! Ac dw i'n hoff iawn o'i arddull hefyd. Prynes i hwn gan iTune ar unwaith. 




Friday, March 13, 2009

wild wales


Dechreues i ddarllen y llyfr ma gan George Borrow ddyddiau yn ôl. Er gwaetha agwedd eitha nawddoglyd yr awdur a'r disgrifiad o'i ddoniau anghredadwy, rhaid i mi gyfadde mod i'n mwynhau'r llyfr. O leia roedd o'n benderfynol o gerdded ar draws Gymru er mwyn profi'r wlad ac yn gwerthfawrogi cyfleoedd i siarad Cymraeg efo'r Cymry:

"Oh, what a blessing it is to be able to speak Welsh!" said I, finding not a person to whom I addressed myself had a word of English to bestow upon me.

Mae o ar ei ffordd o Gerrig-y-Druidion i Fangor ar hyn o bryd. Darllena i fwy ar ôl golchi'r llestri a nôl coed tân o'r garej.


Thursday, March 12, 2009

cerddoriaeth wyddelig


Roedd yna gyngerdd cerddoriaeth wyddelig yn y llyfrgell leol heddiw. Roeddwn i'n synnu braidd gweld cryn dipyn o gynulleiddfa yno. Perfformiodd band 'cerddoriaeth Geltaidd' y dre sy'n golygu cerddoriaeth wyddelig. Roedd y gerddoriaeth yn dda ond roedd yna fwy o ddarlith ar fywyd William Yeats na dim byd arall. Does gen i ddim mymryn o ddiddordeb ynddo fo gwaetha'r modd. Penderfynes i adael yng nhganol y rhaglen. O wel, mae gen i rywbeth i'w adrodd yn fy mlog heddiw o leia.

Sunday, March 8, 2009

ysgoloriaethau brad henry


Llywodraethwr Oklahoma ydy Brad Henry. Clywes i fod o'n ymddiddori yng Nghymru wedi ymweld â hi a chael ei gyfareddu flynyddoedd yn ôl. Mae talaith Oklahoma'n rhoi ysgoloriaethau yn enw Mr. Henry i fyfyrwyr ym mhrifysgolion Oklahoma i astudio ym Mhrifysgol Abertawe ($10,000 yr un) am dymor.

Cafodd myfyrwraig o'r brifysgol leol un y llynedd, ac mae saith mewn prifysgolion eraill wedi cael y fraint eleni. Mae'r brifysgol leol newydd gyhoeddi y bydd hi'n cynnig un ysgoloriaeth i'r myfyrwyr yma eleni hefyd. 

Felly, os byddwch chi'n cyfarfod myfyrwyr Americanaidd ym Mhrifysgol Abertawe ac maen nhw'n siarad Saesneg â 'Southern drawl', o Oklahoma maen nhw'n dod.


Saturday, March 7, 2009

dathlu



Mae'r brifysgol leol wedi bod yn dathlu ei chanmlwyddiant yn ddiweddar ac roedd yna seremoni ddoe. Codwyd celflun Sequoyah a wnaeth ddyfeisio 'syllabary' yr iaith Cherokee o flaen yr adeilad gwreiddiol. Dechreuodd y brifysgol yn yr adeilad hwn a oedd yn neuadd i fyfyrwyr Cherokee o'r blaen. Mae'r brifysgol yn gwerthfawrogi cyfraniad Sequoyah at yr iaith Cherokee yn ogystal â chysylltiad rhwng y brifysgol a'r llwyth.

Friday, March 6, 2009

siaradwch gymraeg â fi!


Dyma'r crys. Dw i wrth fy modd. Ond a dweud y gwir, mae yna dyllau bach bach arno fo, a chwynes i wrth y gwmni. Ofynodd o i mi dynnu llun ohonyn nhw. Felly y bu. Roeddwn i'n barod i yrru'r crys yn ôl ond chwarae teg i'r cwmni, anfonith o un newydd ac dw i'n cael cadw hwn.

Bydda i'n gwisgo'r crysau yng Nghymru yn yr haf ma. Bydd pawb yn siarad Cymraeg â fi heb os! (...tybed?)

Thursday, March 5, 2009

diwrnod cenedlaethol t. llew jones

Llongyfarchidau mawr i blant Ysgol Chwilog am lwyddo yn eu ymgyrch! Mae'n anhygoel bod popeth wedi digwydd mor gyflym. Gobeithio y bydd nifer o blant ac oedolion i gyd yn mwynhau'r gweithgareddau a chofio'r awdur annwyl a'i llyfrau, ac bydd yr iaith Gymraeg yn mynd o nerth i nerth drwyddyn nhw.

Wednesday, March 4, 2009

dwr pur


Peth hwylus ydy hwn. Roedden ni'n defnyddio un sy'n mynd  ar ddwsel ond roedd o'n rhy drwm i'n dwsel ni, ac roedd rhaid cael gwared arno fo. Roeddwn i'n meddwl am brynu dwr mewn jygiau ond roedd gas gen i'r syniad o gludo jwg dwr ar ôl y llall bob wythnos o'r siop heb sôn am y sbwriel a fyddai'r jygiau plastig yn creu. Yna, gweles i hwn yn y siop. Mae o'n gweithio'n braf a mwy cyfleus a dweud y gwir. Dim ond angen tosti dwr y dwsel yn y darn uwch sydd angen. Mae'r dwr yn mynd i lawr i'r darn is drwy'r ffilter. Dyma i chi ddwr pur!

Tuesday, March 3, 2009

gwyl doliau


Oedd bron i mi anghofio.' Hinamatsuri' (Gwyl Doliau) ydy hi heddiw yn Japan. Cymeres i'n doliau allan o'r blwch y bore ma. Fel arfer arddangosir y doliau am wythnos neu ddwy tan y Wyl. Roedd fy mam yn arfer dweud y byddai'r doliau'n crio tasen nhw ddim yn cael mynd allan o blychau bob blwyddyn. Cael a chael!

Monday, March 2, 2009

teils!



Gorffenodd Kurt ei waith ar yr ystafell ymolchi p'nawn ma. Mae hi'n edrych yn wych. Dw i wrth fy modd efo'r teils na. Gweithiwr medrus a dibynadwy ydy Kurt. Dw i mor falch fod o'n byw yn y dre ma.

Sunday, March 1, 2009